|
|
|
| | | |
Cyflwyniad i bentref Portmeirion, a'r pensaer Syr Clough Williams-Ellis |
|
Mentrau'r Pentref
Sefydlodd merch Syr Clough, Susan, a oedd yn artist ac wedi ei hyfforddi gan Henry Moore, Grochendy Portmeirion ym 1960. Roedd Susan a'i gwr, Euan, wedi cymryd trosodd rhedeg siopau'r pentref yn y '50au, ac roedd Susan wedi cynllunio nifer o fathau o waith ceramig iddyn nhw. Yn y pen draw fe symudodd y cwmni i mewn i adeiladau yn Stoke on Trent ac erbyn hyn maen nhw'n allforio cynlluniau cyfredol a rhai wedi eu hail-lansio o'r '60au ar draws y byd.
Yn ogystal â'i ddiddordeb mewn Pensaernïaeth a chynlluniau Tirluniau lliwgar, roedd Williams-Ellis yn dadlau'n gryf o blaid cadwraeth cefn gwlad, cynllunio mwynderau a chynllunio diwydiannol, ac mae'r casgliad o adeiladau a nodweddion pensaernïol wedi eu benthyg yn fodd i gadw elfennau o hanes pensaernïol o bob rhan o'r DU. Ym 1971 cafodd Syr Clough ei urddo'n farchog am ei wasanaeth i bensaernïaeth a'r amgylchedd.
Mae Portmeirion yn eiddo i elusen gofrestredig, a chaiff ei reoli gan Robin Llywelyn, oyr Willliams-Ellis. Ceir arwyddion i Portmeirion oddi ar yr A487 yn Minffordd rhwng Penrhyndeudraeth a Phorthmadog. Mae'r pentref ar agor i ymwelwyr a gwesteion drwy'r flwyddyn - ceir mwy o fanylion ar y wefan swyddogol:
| Print this page |
| | | |
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|