|
|
|
| | | | |
Allt-y-Bela - "Cystadlu â'r teulu Edwards'" |
|
Y Twr
Mae nifer o nodweddion anarferol yn perthyn i'r tor, fel y simneiau sydd wedi eu gosod ar letraws, ffenestri 'pefel cadw' a grisiau pren cylchog a oedd yn cael eu ddefnyddio yn hen rannau a rhannau newydd yr adeilad, yn ymestyn o'r top i'r gwaelod. Roedd gwydr wedi dod yn rhatach fel deunydd adeiladu gan ganiatàu rhoi tair ffenestr ar bob un o'r lloriau is ac un yn y groglofft. Roedd cynllun cyfoes y ffenestri i raddau helaeth iawn yn cael gwared â drafftiau, ac felly gosodwyd ffenestri a oedd yn agor. Hefyd fe geir pennau drysau wedi eu siapio, a chychwynnodd hyn y tueddiad i gael lefel o soffistigedigrwydd mewn addurno mewnol, oherwydd cyn hyn byddai drysau, fframiau drysau a phennau drysau wedi bod yn blaen ac yn ymarferol yn unig.
Parlwr mawr oedd llawr cyntaf yr adeilad, ystafell wely oedd yr ail a chroglofft oedd y trydydd. Roedd yr adeilad hefyd yn cynnwys seler seidr - cyflwynwyd gwneud seidr i Sir Fynwy tua'r cyfnod hwn, ac roedd nifer o dai newydd y cyfnod yn cynnwys lle arbennig i gadw'r barilau. Fel arfer fe olygai hyn islawr, ond gan bod Allt-y-Bela wedi ei adeiladu ar lawr dyffryn (nid ar ochr mynydd defnyddiol), roedd y llawr cyntaf i gyd wedi ei roi i gadw seidr a gallai hyn fod wedi egluro uchdwr y tor newydd.
Roger Edwards y Cymwynaswr- Ni chyfyngodd Edwards wariant ei gyfoeth sylweddol ar ei brosiectau adeiladu'n unig.
- Cafodd y tai elusen yn Llangeview eu sefydlu yn ôl ei gyfarwyddiadau er mwyn rhoi cartref i 'bersonau anghenus' tri plwyf lleol. O dan dermau Elusen Roger Edwards, roedd y rhai oedd yn byw yn y tai elusen yn 'ddeiliaid trwy drwydded', nid tenantiaid, ac roedden nhw'n talu 'cyfraniad cynnal a chadw', nid rhent. Roedd yna gapel ynghlwm wrth yr adeilad, gyda chaplan wedi ei apwyntio gan yr ymddiriedolwyr.
- Sefydlodd Edwards Dai Elusen yn Newland, Swydd Gaerloyw, sy'n dal i fod â nifer o'r nodweddion gwreiddiol o'r 17eg ganrif.
- Gwnaeth Edwards hefyd, a fu farw ar 28in Mawrth 1624, ddarpariaeth yn ei ewyllys i sefydlu'r Ysgol Ramadeg ym Mrynbuga, ac mae yna goffâd iddo yn y fynwent eglwys lleol.
|
|
| Print this page |
| | | |
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
| | |
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|