Rhowch i'm fy hyfryd got...
Mae'r gystadleuaeth i ddewis Joseff newydd Andrew Lloyd Webber wedi dod i ben ond mae'n anodd cael yr hen gan yna allan o'm mhen. "Pan af yn ôl at y dechreuad...".
Gadewch i ni gofio lle roedden ni chwe wythnos yn ôl. Roedd canlyniadau'r etholiad yn amwys a'r dyfodol yn ansicr. Y senario debycaf oedd clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Dw i ddim am ail adrodd popeth sydd wedi digwydd ers hynny ond dyma ni ar drothwy rhyw fath o gytundeb gyda Phlaid Cymru yn gorfod penderfynu rhwng yr enfys a llywodraeth coch/gwyrdd.
(Penderfyniad Plaid Cymru yw hwnnw, gyda llaw. Er cymaint y geiriau croes yn Westminster a'r Rhondda mae Rhodri a Gordon yn benderfynol o gadw grym yng Nghymru beth bynnag yw barn yr Aelodau Seneddol ac Ysgrifennydd Cymru. Mae penderfyniad Rhodri i gefnogi Harriet Harman yn y ras am ddirprwy arweinyddiaeth ei blaid yn adrodd cyfrolau am bwy sydd ar ben arall y ffon yn Llundain...ac nid Peter Hain yw hwnnw. Fe fyddai cynhadledd Lafur yn cefnogi clymblaid a Phlaid o fwyafrif llethol beth bynnag yw safbwyntiau trigolion swigen San Steffan.)
"Ond awn yn ôl hyd y dechreuad...". Ers i mi bostio, yn hanner gellweirus, ddoe ynglŷn â'r posibilrwydd y gallai Mike German godi'r ffon i Rhodri Morgan mae ambell i un yn y Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi crybwyll y posibilrwydd o ail- agor trafodaethau rhwng y ddwy blaid.
Dw i ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd, ond er mwyn ei rhwystro dw i'n amau na fydd grŵp cynulliad a phwyllgor gwaith Plaid Cymru yn chwalu'r enfys yfory. Y disgwyl oedd y byddai cyfarfodydd Plaid yfory yn dewis rhwng coch/gwyrdd a'r enfys. Dw i'n amau y gallai'r cyfarfodydd benderfynu cadw'r ddau bosibilrwydd yn fyw er mwyn cadw'r cadwynau ar Mike German.
Pell Pell i ffwrdd roedd rhai yn cysgu...
Diweddariad; Ers i mi sgwennu'r uchod mae cyfeillion o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol wedi awgrymmu i mi na fyddai cadw'r ddau gynllun yn fyw yn llehai'r pwysau ar Mike German i siarad a Llafur. Fe ddaw'r pwysau hynny gan bobol sydd yn teimlo ei bod hi'n iawn i nhw siarad a phawb os ydy Plaid Cymru yn gwneud hynny.
Os felly (a dw i'n tueddu derbyn y ddadl) mae'n bosib y bydd yn rhai i Blaid Cymru neidio i'r naill gyfeiriad neu'r llall yfory neu wynebu dychwelyd i'r sefyllfa oedd yn bodoli ar Fai'r 6ed pan oedd yr opsiynnau i gyd yn agored. Yn ol at y dechreuad mewn geisiau eraill!
SylwadauAnfon sylw
"Dw i ddim am ail adrodd popeth sydd wedi digwydd ers hynny ..."
Diolch am ni!
Wyt ti'n siwr dy fod yn cofio fe gyd? Rwy'n cael ambell flashback i gyfnodau roeddwn wedi llwyr anghofio - ac yn rhai ohonynt mae'r lliwiau'n eitha seicodelig...