Wil Edwards
Bu farw Wil Edwards, aelod seneddol Meirionnydd o 1966 tan Chwefror 1974. Doeddwn i ddim yn nabod Wil yn dda ond ces i groeso digon cynnes yn ei gartref yn Llangollen ar ambell i achlysur a'i gael yn ddyn ffraeth a dymunol.
Roedd Wil yn perthyn i genhedlaeth ddiddorol o wleidyddion wnaeth ddod i'r amlwg yn ystod cyfnod pan oedd hi'n ymddangos bod Llafur ar fin disodli'r Rhyddfrydwyr fel plaid naturiol yr ardaloedd Cymraeg. Cledwyn Hughes oedd eu hysbrydoliaeth a phan ymunodd Megan Lloyd George a Llafur roedd hi'n ddealladwy bod gwleidyddion Cymreig uchelgeisiol yn barnu mai'r blaid honno oedd plaid y dyfodol.
Denwyd Elystan Morgan o rengoedd Plaid Cymru, ymunodd y cyn-weriniaethwr, Gwilym Prys Davies, hefyd. Gyda ffigyrau huawdl eraill fel Ednyfed Hudson Davies, Gwynoro Jones a Denzil Davies ym mlaen y gad gellid dadlau bod Llafur wedi denu y rhan fwyaf o wleidyddion Cymraeg mwyaf disglair eu cenhedlaeth.
Plaid Cymru, wrth gwrs oedd y drwg yn y caws. O fewn misoedd i ethol Wil ym Meirionnydd cynhaliwyd is-etholiad Caerfyrddin. Gwilym Prys oedd yr ymgeisydd Llafur aflwyddiannus. Fe gipiodd Llafur y sedd honno yn 么l yn 1970 ond roedd cyfle Llafur i sicrh芒i ei gafael ar y Cymry Cymraeg wedi ei golli. Trechwyd Wil Edwards gan Dafydd Elis Thomas. Collodd Elystan i Geraint Howells ac fe gymerodd Wyn Roberts le Ednyfed fel aelod Seneddol Conwy.
Yn etholiad cyffredinol 1966 enillodd Llafur ym M么n, Arfon, Meirionnydd, Ceredigion a Chaerfyrddin. Pan gyrhaeddodd y blaid benllanw tebyg yn 1997 enillwyd dim ond un o'r seddi hynny.
Mae 'na ddigonedd o Gymry Cymraeg, wrth gwrs, sy'n pleidleisio i Lafur, ond mae 'na lawer mwy sydd ddim yn gwneud ac mae'r dyddiau lle y gallai Llafur obeithio ennill mewn ardal fel Meirionnydd wedi hen ddiflannu.
Pam? Wel dyna yw 'r cwestiwn y bydd Cymdeithas Cledwyn yn ceisio ei ateb dros y misoedd nesa baratoi adroddiad ar ddyfodol y blaid ymysg y Cymry Cymraeg. Fe fynegwyd hanfod y broblem efallai ar 么l etholiad 1974 gan un o etholwyr Meirionnydd. Fe ddywedodd hyn; 鈥減roblem Llafur yw bod 'na o leiaf un George Thomas am bob Cledwyn Hughes.鈥