Gorwedd yr ardal brydferth hon yng nghysgod mynydd Du Bannau Brycheiniog i'r dwyrain a Mynyddoedd y Cambrian i'r Gogledd. Dyma ardal sy'n nefoedd i gerddwyr, naturiaethwyr, pysgotwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Ond i mi, mae Dinefwr yn fy hudo oherwydd ei bod yn llawn hen, hen hanes - o fwyngloddiau aur y Rhufeiniaid yn Nolaucothi i fryngaer Garn Goch a saif fry uwchben pentref bychan Bethlehem, o lwybrau treuliedig y Porthmyn i gestyll cadarn tywysogion y Deheubarth.
Mae Dinefwr yn ardal sy'n cynnig amrywiaeth o olygfeydd a deuoliaeth ryfedd o ran ei hanes - dyma ardal a ymwelwyd 芒 hi gan nifer o saint-genhadon cynnar megis Sant Teilo un o gyfoedion Dewi Sant ond eto does dim dianc chwaith rhag hanes y brwydrau canol oesol gwaedlyd yng nghestyll cyfagos megis Dryslwyn.
Hoffwn feddwl bod croeso llawer iawn mwy gwaraidd yn disgwyl ymwelwyr 芒 Dinefwr heddiw a charem estyn croeso cynnes iawn i'r rhai ohonoch sy'n mynychu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerfyrddin i ymweld 芒'r ardal odidog hon yn ystod wythnos y brifwyl os am hoe rhag yr holl gystadlu brwd. Yn ddi-os mae yma lu o deithiau i chi eu mwynhau ym Mro Dinefwr - felly beth amdani? Dewch i "Eden y Deheudir" -
"Y fro mae'r droed am oedi
Ar ei hynt trwy'i herwau hi". (T.M. Thomas)
Gwibdaith yn y car - ardal Llanymddyfri
Mae fy nhaith yn cychwyn fry uwchben Llanymddyfri, yn ardal hyfryd Rhandirmwyn. Nepell o darddiad yr afon Tywi ynghanol anialdir mynyddoedd y Cambrian y dewch o hyd i gronfa dd诺r Llyn Brianne. Er bod teimladau cymysg iawn yng Nghymru am foddi cymoedd a dyffrynnoedd er mwyn cyflenwi d诺r domestig, wrth edrych ar harddwch naturiol Llyn Brianne a gweld y bywyd gwyllt o'ch amgylch gallech feddwl bod y llyn wedi bod yno erioed. Gallwch barcio'r car yn y maes parcio bychan a cherdded dros wal yr argae gan edrych i lawr ar y rhaeadr dd诺r fodern ysblennydd islaw.
I'r rhai mwy heini yn eich plith mae modd cerdded o Fforest y Tywi ac heibio i nifer o hen ffyrdd y Porthmyn i'r gogledd o'r Llyn i lawr dros y mynydd i gartref fy nheulu i sef Ystrad Fflur. Ond i'r rhai llai uchelgeisiol yn eich plith mae'n braf eistedd ar lan y llyn gyda phicnic a gwerthfawrogi'r adar gwyllt (yn cynnwys y barcud) a'r llonyddwch anhygoel. Rhyw ddydd ofnaf y bydd cyfarwyddwr hysbyseb car neu gyfarwyddwr ffilm James Bond yn darganfod y lle a bydd y llonyddwch yn diflannu am byth.
O lyn Brianne, rhaid pwyntio trwyn y car i gyfeiriad Llanymddyfri gan basio heibio i warchodfa Natur yr RSPB yn Dinas a Chapel bychan St Paulinus, Ystrad Ffin. Yn 么l yr hanes priododd y lleidr pen-ffordd a'r arwr Cymreig Twm Sion Cati gweddw Thomas Rhys Williams, Fferm Ystrad Ffin gerllaw. Oddi yma gallwch gerdded i ogof Twm lle y byddai'n cuddio ei ysbail a chuddio rhag ei elynion. Lleolir ogof Twm ar fryn Dinas ar dir gwarchodfa'r RSPB (cyfeirnod grid SN780468 ar y map).
Ymlaen wedyn heibio i bentref gwasgaredig a hardd Rhandirmwyn gan yrru ymlaen am Lanymddyfri. Byddem yn argymell eich bod yn taro golwg sydyn ar bont hynafol Dolau Hirion ar y ffordd os yw amser yn caniatau.
Ar gyrraedd Llanymddyfri, bydd gofyn i chi droi i'r chwith (am Lanelwedd) cyn troi'n sydyn i'r chwith eto wrth ymyl Ysbyty Llanymddyfri a dringo i fyny i Eglwys Llanfair ar y Bryn. Dyma un o fannau harddaf Llanymddyfri a gallwch edrych i lawr ar y gwastadedd ir o'ch cwmpas. Dyma le mae bedd y Ficer Pritchard, awdur Canwyll y Cymry. Protestant pybyr oedd y Ficer ac roedd dysgeidiaeth y Pab yn wrthun ganddo. Cymaint oedd llwyddiant y gyfrol Cannwyll y Cymry fel y daeth 52 argraffiad o'r wasg cyn 1820. Ym mynwent yr Eglwys hon saif colofn goffa i un arall o fawrion Llanymddyfri sef William Williams, Pantycelyn. Yn ystod ei oes ysgrifennodd bron i 1,000 o emynau ac erys nifer ohonynt yr un mor boblogaidd heddiw (hyd yn oed mewn lleoliadau eithaf annhebygol fel meysydd rygbi!). Tanlinellir pwysigrwydd y ddau wron i'r dref gan i'r ddwy ysgol leol gael eu henwi yn Ysgol Rhys Prichard ac Ysgol Pantycelyn.
I orffen y daith gyrrwch ymlaen i ganol y dref gan barcio yn y maes parcio yng nghysgod Castell Llanymddyfri. Cyn dringo i fyny'r llwybr serth i'r castell cofiwch daro i mewn i'r ganolfan treftadaeth gerllaw, pe bai ond i weld y cerflun efydd o'r porthmon sy'n sefyll yn falch tu allan. Mae hanes y porthmyn yn frith ledled yr ardal hon - ond yn fwy diweddar Porthmyn tra gwahanol sydd wedi dod 芒 bri i'r dref - sef y t卯m rygbi. Ar ddydd Sadwrn 28 Ebrill eleni cipiodd t卯m y Porthmyn fuddugoliaeth hanesyddol wrth ennill g锚m derfynol Cwpan Konika ac yn 么l y s么n mae'r dathlu yn parhau.
Wrth anelu am y castell fe gewch eich hudo gan gerflun arall bendigedig sy'n disgleirio'n urddasol yng ngolau'r haul. Yma gorffen fy nhaith - ni all unrhyw un adael y dref heb weld y cerflun dur gloyw 16 troedfedd bendigedig yma sy'n coffau yr arwr Llywelyn ap Gruffudd Fychan. Cerflun weddol ddiweddar yw hwn a welodd olau dydd diolch i ymdrechion arbennig Pwyllgor Coffa Llywelyn ap Gruffydd Fychan, a saern茂aeth a chynllunio medrus y ddau frawd Toby a Gideon Petersen o San Cl锚r.
Nid yw hanes Llywelyn ap Gruffydd Fychan mor gyfarwydd i ni efallai a nifer o'i gyfoedion megis Owain Glynd诺r ond bu ei gyfraniad yntau yn un uchelwrol a dewr dros ben. Pan drechodd Owain Glynd诺r byddin Harri 1V yn Hyddgen yn haf 1401,
ymatebodd Harri drwy arwain byddin anferth o Gaerwrangon i gipio Owain a cheisio dod 芒'r rhyfel i ben ar unwaith.
Cyrhaeddodd ardal Llanymddyfri a gorfodi Llywelyn ap Gruffydd Fychan, tirfeddiannwr o Gaeo i'w wasanaethu a cheisio dod o hyd i
Glynd诺r. Ychydig a wyddai Harri bod dau fab Llywelyn yn
ymladd ym myddin Glynd诺r ac na fyddai Llywelyn byth yn bradychu ei wlad, ei
deulu na'i Dywysog.
Arweiniodd frenin Lloegr ar hyd ucheldir y Deheubarth ar drywydd cyfeiliornus
i roi cyfle i Owain ddianc a chryfhau ei achos ymhellach. Yn y diwedd, collodd Harri ei amynedd a bu'n rhaid i Llywelyn gyfaddef y gwir - sef ei fod yn deyrngar i Owain ac i Gymru. Roedd Harri o'i gof a gorchymynnodd bod Llywelyn yn cael ei lusgo i Lanymddyfri lle cafodd ei ddiberfeddu a'i dynnu'n bedwar aelod a phen yn gyhoeddus wrth y crocbren o flaen pyrth y castell. Dioddefodd am oriau cyn marw. Halltiwyd ei weddillion a'u danfon i drefi eraill yng Nghymru fel rhybudd i eraill. Yn eironig, ni phallodd y gefnogaeth i Glynd诺r ac er i'w ryfel am annibyniaeth fethu yn y diwedd, ni chafodd ei ddal na'i fradychu. Arwr tawel a dewr oedd Llywelyn ap Gruffydd Fychan sy'n llawn teilyngu'r cerflun hardd.
Da chi, peidiwch a gadael Llanymddyfri heb weld y gofeb "sy'n crisialu'r ysbryd sydd wedi cynnal Cenedl y Cymry hyd heddiw ac sydd wedi galluogi'r Cymry, eu diwylliant a'u hiaith i oroesi er gwaethaf yr holl fygythiadau i'w bodolaeth"...
MVJ (gan ddiolch yn arbennig i Rhobert ap Steffan am y wybodaeth am Llywelyn ap Gruffydd Fychan).
Dewch am dro i weld rhai o ogoneddau hanesyddol Dinefwr.
Beth am gychwyn yn Nhalyllychau a chael golwg ar yr Abaty sefydlwyd gan yr Arglwydd Rhys ar gyfer Urdd y Premonstratensiaid rhwng 1184 a 1189. Mae rhannau o gapel yr abaty wedi goroesi. Cerddwch trwy'r fynwent, y gat ac allan i'r cae ac o amgylch y llyn hyfryd gyda'r elyrch. Ewch i ddiwedd y llwybr i mewn i'r goedwig - ceisiwch gael gafael yn olion yr hen gastell mot a beili cyn ymlwybro trwy'r coed i'r cwt gwylio adar y llyn pellaf.
Nesaf draw i bentref Bethlehem a dilyn yr arwyddion am fryngaer Garn Goch. Dyma fryngaer oes haearn mwyaf Sir G芒r. Parciwch y car ger y llwybr isaf a cherdded i fyny heibio i gofeb Gwynfor ac i'r gaer isaf. Oedwch i edrych ar amddiffynfeydd y gaer uwchben a rhyfeddu at allu ein cyndeidiau i adeiladu gwrthgloddiau cerrig 20 troedfedd o uchder ac o led. Wedi cyrraedd y gaer cewch gyfle i gael gafael yn eich gwynt cyn ei golli eto wrth syllu ar yr olygfa odidog o ddyffryn Tywi'n ymestyn o Landeilo i Lanymddyfri. Mae i'r gaer arwynebedd o 29 erw a thystiolaeth bod pobl wedi byw ar y safle o'r Oes Efydd (2000-14000C). Yn ystod yr Oes Haearn (5000C tan amser y Rhufeiniaid) roedd y Gaer ar y ffin rhwng ardal llwyth Celtaidd y Silures (De Cymru rhwng yr Hafren a Thywi) a llwyth y Demetiae drigai yn y gaer a'u tiroedd yng ngorllewin Cymru.
Nawr draw ar yr heol gefn o Garn Goch i bentref Trap ac ar y graig uwchben fe welwch un o gestyll mwyaf trawiadol Cymru - Carreg Cennen. Mae'n debyg taw'r Arglwydd Rhys adeiladodd y gastell gyntaf a fu ym meddiant y teulu tan i Edward I ei chipio tua 1277. Mae'r adeiladau presennol o'r cyfnod hynny. Fe fu'r castell dan warchae gan Owain Glynd诺r yn 1403 pan ddinistrwyd llawer o'r adeiladwaith. Mae sawl hanes i'r lle - tybiwyd mai Urien Rheged, un o arglwyddi'r Brenin Arthur, oedd perchennog cyntaf y safle a'i fod yn dal i gysgu o dan y castell yn disgwyl galwad i'r gad gan ei gyd卢 Gymry. Cofiwch fynd i weld yr ogof sydd yng nghrombil y castell ond, cofiwch beidio deffro Urien!
Felly n么l i Landeilo ac wedyn yr hen heol i Gaerfyrddin. Heibio i blas Gelli Aur adeiladwyd gan deulu Cawdor rhwng 1827 a 1832. Mae'n werth oedi i weld yr ardd goed blannwyd yn yr 1860au. Fe welwch hefyd, yn y pellter, ffolineb T诺r Paxton adeiladwyd tua 1815 i goffau Nelson. Mae'r olygfa o'r fan hon yn fendigedig hefyd.
A beth am ddiweddu'r daith yng Nghastell Dryslwyn saif ar fryn yng nghanol y dyffryn. Mae'n debyg taw'r Arglwydd Rhys eto fu'n gyfrifol am adeiladu'r castell gyntaf ac fe fu'n ganolfan bwysig ac, o bosib, yn llys ar gyfer arglwyddiaeth Cantref Mawr. Erbyn diwedd y drydedd ganrif ar ddeg Dryslwyn oedd castell mwyaf y Cymry yn Ne Cymru. Fe fu olion tref canol oesol yn rhan o'r castell hefyd.
O gopa'r bryn fe welwch bod y castell mewn man strategol bwysig i'r dyffryn a fu'n ganolbwynt gwaedlyd yn yr ymladd rhwng Llywelyn ap Gruffudd ac Edward. Yn y pellter gallwch weld castell Dinefwr, ac ar ddiwrnod clir iawn, Carreg Cennen.
Euros Owen
Mwy am yr ardal.
Gwefan tref Llandeilo.
Llwybrau Plas Dinefwr.