³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Chwifio'r Faner Goch

Vaughan Roderick | 16:46, Dydd Iau, 22 Ebrill 2010

Sputnik_Poster_Soviet.jpgDyma i chi gwestiwn bach. Pwy yw'r unig Gymro Cymraeg sy'n arwain plaid Brydeinig. Un i'r anoraks, efallai.

Yr ateb yw Robert Griffiths, ysgrifennydd cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Prydain ac ymgeisydd y blaid honno yn Ne Caerdydd a Phenarth.

Nawr efallai y byddai rhai yn meddwl bod Rob yn bwrw ei ben yn erbyn wal brics ond mae'n gwneud hynny gydag egni ond hefyd gyda hawddgarach a hiwmor sydd ddim bod tro yn cael eu cysylltu â phleidiau ar y cyrion.

Yn wir mae Rob mor hoff o ddadlau ei achos nes i'r blaid drefnu dadl ei hun yn Sblot gan wahodd ymgeiswyr y pleidiau eraill. Mae Alun Michael o Lafur, y Democrat Rhyddfrydol, Dominic Hannigan ac ymgeisydd y Gwyrddion, Matthew Townsend wedi derbyn y gwahoddiad.

Dyw hi ddim yn syndod efallai y bydd y Ceidwadwyr yn absennol!

Yn ôl ymgeiswyr o bob lliw a phob llan mae cyfarfodydd amlbleidiol yn fwyfwy cyffredin er mai eglwysi ac elusennau ac nid pleidiau sy'n eu trefnu gan amlaf.

Gyda'r holl sylw ar y dadleuon teledu mae 'na rywbeth braf yn y ffaith bod gwleidyddiaeth unwaith yn rhagor yn cael ei drafod yn y festri a'r neuadd bentref ar ôl degawdau digon hesb i gyfarfodydd cyhoeddus gwleidyddol.

Mae rhestr lawn o ymgeiswyr De Caerdydd a Phenarth yn .


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:09 ar 22 Ebrill 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Dyma sylwadau cychwynol ar yr 2il ddadl gan nad oes man arall yw cynnwys.

    Roeddwn yn teimlo fod Gordon dipyn yn gryfach heno, wnaeth Clegg ddim llithro llawer roedd ychydig yn ansicr ar rai cwestiynnau ond fe orffennodd yn gryf. Yn fy marn Cameron oedd wanaf . Roedd Brown yn fwy ymosodol a dwi yn meddwl fod Cameron wedi dal yn ol ormod. Yn eiroinig os am wneud mwy o farc dwi yn meddwl y dylai Cameron wyro i'r chwith gan fod Llafur a'r Lib Dems yn agos iawn ar nifer o bynciau ac mae tir mwy ffrwythlon i'r Ceidwadwyr sef gwaddol UKIP a'r dosbarth gweithiol mwy eithafol. Mae pol y Sun yn gosod Cameron gyntaf sydd yn hynod gyfleus. Yn fy marn mae Cameron ar y gorau wedi aros yn llonnydd ac fe fyddwn yn meddwl ei fod wedi llithro

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.