Hanner Ffordd
Dyma ni felly wedi cyrraedd hanner ffordd yn yr ymgyrch etholiadol mwyaf diddorol a difyr ers, wel, ers 'dwn i ddim pryd.
Dydw i ddim yn meddwl fy mod yn gor-ddweud chwaith wrth hawlio y bydd y dyddiau nesaf yn rhai tyngedfennol. Mae'r papurau'r rheiny sy'n pledidleiso trwyr post ar fin cael eu dosbarthu. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol felly ar fin gallu bancio peth o'r ymchwydd yn eu cefnogaeth. Y cyfan sydd angen yw cadw'r ddisgyl yn wastad ym ychydig ddyddiau.
Y cwestiwn mawr yw hwn. Ydy patrwm yr etholiad wedi ei osod neu, i ddefnyddio cymhariaeth Nick Bourne, a fydd y soufflé felen yn dechrau suddo cyn i'r bleidlais gyntaf gael ei bwrw?
Mae magnelau mawrion Fleet Street wedi tanio'r bore 'ma ond tamaid i aros pryd yw hynny mewn gwirionedd. Yng Nghaerodor heno y bydd y loddest. Fel un o Gaerdydd rwy'n rhannu rhagfarnau fy nghyd-ddinasyddion gan gredu mai'r unig beth da i ddod allan o Fryste yw'r stemar i Benarth. Serch hynny fe fydd fy llygaid i, a'ch rhai chi, rwy'n tybio, wedi eu hoelio ar y teledu.
Un peth sy'n rhyfedd heno. Dyw'r digwyddiad ddim yn un a o arbennig o bwysig i Gordon Brown. Fe fyddai osgoi trychineb yn ddigon da i'r Prif Weinidog. Mae'r stêcs llawer yn uwch i'r ddau arweinydd arall.
Cofiwch fe ddywedodd un Llafurwr rywbeth diddorol wrtha i'r dydd o'r blaen. "Jyst meddylia," meddai "ble y gallai Llafur fod pe bai rhywun fel Alan Johnson yn ein harwain". Mae'n rhy hwyr i feddwl am bethau felly, bois. Mae'r gwely hwnnw wedi hen gyweirio er da neu er drwg.
Yn y cyfamser mae ymddiriedolwyr y ³ÉÈËÂÛ̳ wedi gwrthod cwynion Plaid Cymru a'r SNP ynghylch y dadleuon. Gellir darllen y dyfarniad yn fan hyn.