Coronwch hi yn ben
Rwy'n cofio rhyw dro ceisio esbonio'r ffordd y mae'r gwledydd hyn yn cael eu llywodraethu i fy mrawd yng nghyfraith sy'n Americanwr. Ar ôl rhyw hanner awr roeddwn mwy neu lai wedi llwyddo i gyfleu'r syniad mai un o hanfodion ein cyfnasoddiad yw nad yw e'n bodoli - neu yn hytrach ei fod wedi ei wasgaru trwy gannoedd o ddeddfau, dedfrydau a dyfarniadau. Symudais i ymlaen i geisio esbonio lle yn union mae ffiniau'r wladwriaeth hon ac fe aethon ni ar goll mewn rhyw fath o driongl Bermuda cyfansoddiadol rhywle rhwng Ynys Manaw, Sark a Thristan da Chuna!
Un agwedd o'r cyfansoddiad nad oeddwn yn gyfarwydd â hi cyn heddiw oedd y 'realm'. 'Teyrnas' sy'n cael ei chynnig gan Cysill fel cyfieithiad o'r term - ond fe awn i ddryswch pur trwy ddefnyddio honno!
Y gwladwriaethau y mae'r Frenhines yn ben arnynt yw'r 'realm'. Mae'r rhestr yn cynnwys y Deyrnas Unedig a'i threfedigaethau wrth reswm ond hefyd pymtheg o wladwriaethau eraill yn eu plith Awstralia, Canada, Seland Newydd a llwyth o ynysoedd bach egsotig fel Antigua, Tuvalu a Saint Lucia.
Mae Prif Weinidogion y gwledydd hynny yn cwrdd ar ymylon Cynhadledd y Gymanwlad i drafod y newidiadau i'r olyniaeth frenhinol y mae David Cameron yn dymuno eu cyflwyno er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhywiol a chrefyddol yn y gyfundrefn. Go brin y bydd 'na wrthwynebiad.
Y cwestiwn sy'n fwy diddorol yw pa fantais y mae'r gwledydd hyn yn gweld mewn cael tramorwraig fel pennaeth gwladwriaeth a honno'n dramorwraig a ddewiswyd trwy hap a damwain ei genedigaeth a hanes ei theulu.
Fel mae'n digwydd roeddwn i yn Awstralia pan bleidleisiodd ei dinasyddion yn erbyn dileu'r Frenhiniaeth. Roedd 'na sawl rheswm am hynny gan gynnwys poblogrwydd personol y Frenhines. Rheswm pwysicach o bell ffordd oedd llwyddiant ymgyrchwyr dros y Frenhiniaeth i ganolbwyntio sylw'r etholwyr ar y fath o weriniaeth oedd yn cael ei chynnig - gweriniaeth lle byddai'r Arlywydd yn cael ei ddewis gan wleidyddion yn hytrach na'r bobol.
Mae gweriniaethwyr Awstralia wedi dysgu'r wers. Pan ddaw refferendwm arall, ac mae'n saff o ddod, ar yr egwyddor y bydd y bleidlais gyda'r manylion i'w trafod ar ôl sicrhau pleidlais 'ie'.
Bychan ond gweithgar yw'r mudiad gwerinaethol ym Mhrydain. Mae cryn swmp i'w dadleuon yn enwedig y rheiny ynghylch y grymoedd mae hawliau'r Goron yn gosod yn nwylo'r Prif Weinidog. Serch hynny go brin y gwelwn ni unrhyw newid tra bod Elisabeth o Windsor yn teyrnasu ac yn y tymor byr mae 'na un ddadl gref dros gadw'r Frenhiniaeth.
Wrth i'r Alban ystyried ei dyfodol cyfansoddiadol mae bodolaeth y Goron yn fodd i iro'r broses gyfansoddiadol trwy gynnig rhyw fath o gysylltiad rhwng yr Alban fel gwlad annibynnol ac aelodau eraill y cyn-undeb. Hynny yw, gallai bodolaeth Undeb Coronau 1603 gwneud hi'n haws i gladdu Undeb 1707. Yn sicr dyna fel mae Alec Salmond yn gweld pethau,