Pleidiau neu Enwadau
Rwyf wedi bod yn esgeuluso'r blog ychydig dros yr wythnos ddiwethaf. Roedd ysgrifennu darlith ar gyfer Canolfan y Morlan wedi mwy neu lai lladd fy awch i sgwennu! Sut mae Gweinidogion yn llwyddo i gynhyrchu pregeth yr wythnos, dywedwch?
Fe fydd y ddarlith yn ymddangos ar wefan y Morlan yn y man ond yn ei hanfod roedd hi'n rhoi bras olwg o hanes gwleidyddol Cymru o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw ac yn gofyn ydy'r system bleidiol sy'n bodoli yng Nghymru heddiw yn adlewyrchu'r rhaniadau yn y farn gyhoeddus. Dyma ran ohoni.
"Ydy'r rhaniadau pleidiol sy'n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd yn cynrychioli'r rhaniadau naturiol o fewn y farn gyhoeddus - wrth i bynciau Cymreig hawlio fwy fwy o sylw?
Rwyf yn gadarn o'r farn nad ydyn nhw.
Mae'n ymddangos i mi bod gwleidyddiaeth sy'n bennodol Gymreig yn cael ei eni drachefn a bod yna floc naturiol o bleidleiswyr sydd wedi eu gwasgaru rhwng y pleidiau ar hyn o bryd.
Mi fedrwch eu canfod o fewn rhengoedd y pedair plaid. Rhain yw disgynyddion y traddodiad gwleidyddol anghydffurfiol rhyddfrydol sydd wedi goroesi o dan wyneb system bleidiol Brydeinig am ganrif a mwy.
Pwy yw'r bobol yma a beth maen nhw'n credu?
Pobol yw nhw sy'n ymwybodol ac yn ymfalchïo mewn Cymreictod, sy'n dyrchafu addysg, diwylliant a democratiaeth, sy'n edmygu gwasanaeth i gyd-ddyn a chymuned ac sy'n parchu llwyddiant trwy ymdrech ond yn ddrwgdybus ynghylch anghyfartaledd ac annhegwch.
Mae'n nhw'n ffyrnig o blaid y wladwriaeth les ac yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus safonol yn bwysigach na cheniniog neu ddwy oddi ar y dreth.
Mae'n disgrifiad yna'n ddisgrifiad o nifer sylweddol iawn o bobol Cymru - y mwyafrif o bosib. Hwn yw tir canol gwleidyddiaeth Cymru ac mae'n wahanol iawn i dir canol gwleidyddiaeth Lloegr.
Wrth i'r hen batrwm yma ddod yn fwy pwysig yn ein gwleidyddiaeth mae'n ymddangos i mi bod ein pleidiau yn edrych yn debycach i enwadau gwleidyddol bob dydd.
Fel yn achos yr enwadau mae pa blaid y'ch chi'n perthyn iddi'n dibynnu'n fwy ar gefndir teuluol, ardal ac iaith nac ar unrhyw ideoleg arbennig.
Mae 'na wahaniaethu diwinyddol bron rhyngddyn nhw ond dyw llawer o'r cefnogwyr ddim yn ymwybodol iawn beth yw'r gwahaniaethau hynny ac mae'r gwahaniaethau y tu fewn i ambell i blaid llawer yn fwy na'r gwahaniaeth rhyngddi hi a phlaid arall.
Ystyriwch hyn am eiliad. Pe bai Paul Davies, Elin Jones, Aled Roberts a Keith Davies yn eistedd da'i gilydd faint o wahaniaethau barn go iawn fyddai rhyngddyn nhw - o leiaf wrth drafod pynciau penodol Gymreig?
Oes ots? Rwy'n meddwl bod 'na. Does ond angen edrych ar Weriniaeth Iwerddon i weld y peryglon o system bleidiol sy'n ddibynnol ar raniadau'r gorffennol yn hytrach na gwahaniaethau barn y presennol.
Yn y fan honno i raddau helaeth yr hyn oedd yn gwahaniaethu Fianna Fail a Fine Gail oedd ar ba ochor yr oedd teulu'r aelodau yn ystod rhyfel cartref Iwerddon.
Yn y fath sefyllfa ydy hi'n syndod bod gwleidyddiaeth wedi troi'n gem o chwennych grym er mwyn ei gael - gyda'r canlyniad bod llygredd mewn gwleidyddiaeth yng ngeiriau comisiwn swyddogol yn "endemic, well known and pervasive"
Rwy'n falch i ddweud nad wyf yn credu y bydd sefyllfa tebyg yn datblygu yng Nghyrmu.
Mae 'na arwyddion bod platiau tectonig ein gwleidyddiaeth yn symud a bydd system bleidiol Cymru yn adlewyrchu'r rhaniadau barn naturiol ymhen amser."