Efallai eich bod wedi diswgyl i mi ysgrifennu rhywbeth am helyntion y Western Mail ddoe. Doedd gen i ddim llawer i ddweud nad oedd eiroes wedi ei ddewud mewn gwrionedd. Rwy'n argymell darllen am ddadansoddiad craff o'r sefyllfa.
Mae Rob yn gywir wrth ddweud mai'r stori fawr ynghylch y Wasg Gymreig yw ei declein hirdymor ac y dylid gweld helyntion ddoe yn y cyd-destun hwnnw. Yn sicr mae gwendid cymharol y cyfryngau Cymreig yn broblem ddifrifol yng Nghymru ond heddiw cafwyd ychydig o newyddion da ynghylch un agwedd o'r sefyllfa.
Heddiw cyhoeddodd y rheoleiddiwr darlledu, Ofcom, a beth bynnag sy'n digwydd mae'n ymddangos y bydd y ddarpariaeth Gymreig ar Sianel Tri yn parhau yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd mae'n rhaid i gontractiwr Cymreig Sianel Tri, sef cwmni ITV, ddarparu gwasanaeth newyddion Cymreig dyddiol a 90 munud o raglenni Cymreig eraill bob wythnos fel amod o'r drwydded. Yn ei dystiolaeth i Ofcom dywed y cwmni fod y gwasanaeth hwnnw'n gynaliadwy ac fe fyddai'r cwmni yn parhau i'w gyflenwi pe bai'r drwydded darlledu'n cael ei ymestyn.
Mae 'na dipyn o newid wedi bod yng nghân ITV. Roedd tîm rheoli blaenorol y Cwmni yn gadarn o'r farn nad oedd y gwasanaeth Cymreig na gwasanaethau newyddion rhanbarthol Lloegr yn bosib eu cynnal yn yr hir dymor.
O ganlyniad cafodd y cwmni ganiatâd i leihau'r nifer o wahanol rhaglenni newyddion rhanbarthol yn Lloegr o 19 i 11 trwy uno rhanbarthau a'i gilydd. Doedd hynny ddim yn ddigon i ITV ac fe luniodd y Llywodraeth ddiwethaf gynllun i ddarparu newyddion i'r cenhedloedd datganoledig a rhanbarthau Lloegr trwy benodi contractwyr annibynol. Cwmni Ulster Television enillodd y gystadleuaeth i ddarparu newyddion i Gymru.
Daeth tro ar fyd, tro ar lywodraeth, a thro ym marn ITV. Rhoddwyd y gorau i'r cynllun am gontractwyr ac erbyn hyn nid yn unig mae ITV yn fodlon parhau i ddarparu newyddion Cymreig mae'n addo cynyddu'r nifer o raglenni rhanbarthol yn Lloegr yn ol i'r nifer flaenorol.
Pam y newid? Yr esboniad amlwg yw bod rheolwyr newydd ITV yn credu mewn buddsoddi yn hytrach na thorri ar wariant er mwyn gwneud elw. Ceir tystiolaeth o hynny wrth wylio cynnyrch drama ddrudfawr ddiweddar y sianel ond mae 'na reswm arall hefyd.
Mae trwyddedau presennol Sianel Tri yn dirwyn i ben flwyddyn nesaf. Ar hyn o bryd mae cwmni ITV yn dal pob un ohonyn nhw ac eithrio trwyddedau'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Gobaith ITV yw y bydd y trwyddedau'n cael eu hymestyn heb gystadleuaeth. Mae addo darparu gwasnaethau Cymreig a rhanbarthol safonol yn gwneud hynny'n fwy tebygol.
Mater i Jeremy Hunt, neu, o bosib, olynydd iddo, fydd hynny.
Ond os ydy'r trwyddedau'n cael ei hysbysebu, sawl trwydded fydd yna? Argymhelliad Ofcom yw y dylid uno holl ranbarthau Lloegr yn un drwydded genedlaethol gyda thrwyddedau ar wahân i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac ynysoedd Môr Udd. Fe fyddai hynny'n golygu diweddu'r cysylltiad hanesyddol rhwng trwyddedau Cymru a Gorllewin Lloegr.
Mae ITV yn gwrthwynebu'r newid gan ddadlau y dylid cadw'r trwyddedau traddodiadol.
Mae 'na ddau reswm am hynny. Yn gyntaf dyw ITV ddim eisiau colli parthau deheuol yr Alban sy'n rhan o drwydded 'Border Television'. Yn ail maen nhw'n synhwyro y byddai 'na lafoerio yn Belfast ac efallai Glasgow o gael cyfle i geisio bachu trwydded Cymru o ddwylo brawd mawr Sianel Tri.
Yn y cyd-destun hwnnw dyma i chi faith fach ddiddorol. Yn ôl ymchwil gan Ofcom mae 69% o drigolion Gogledd Iwerddon yn fodlon ar wasanaeth newyddion UTV. Dim ond 52% o wylwyr Cymru sydd wedi eu bodloni gan wasanaeth newyddion Cymreig ITV.