Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Awdl ramantaidd arall yn 么l ei phwnc, ei
harddull a'i chynnwys, ond awdl anarbennig iawn, er i'r beirniaid ei chanmol.
Y Goron Testun: Pryddest, ' Tom Ellis'
Enillydd: R. Machno Humphreys
Beirniaid: Cadfan, Gwylfa, yr Athro Ellis Edwards
Cerddi eraill:
Y bryddest orau yn 么l Gwylfa oedd pryddest J. Dyfnallt Owen,
prifardd coronog 1907. Pryddest gofiannol, rigymaidd a geir gan R. Machno
Humphreys, ac 'roedd pryddest Dyfnallt yn tra-rhagori arni.
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd ' 'Roedd ysbryd Cymru Fydd yn fyw o hyd, ac er
iddo farw ym 1899 'roedd yr Aelod Seneddol dros Feirionnydd, Tom Ellis, yn
parhau i fod yn arwr gan lawer o Gymry. Delfryd Tom Ellis oedd sefydlu senedd i
Gymru, ond dan gochl Rhyddfrydiaeth Brydeinig. 'Roedd ei genedlaetholdeb
yn pwysleisio'r undod rhwng hanes, llenyddiaeth, celfyddyd, gwerthoedd
cymdeithasol ac ideolegau gwleidyddol. Arthur yn deffro o'i drwmgwsg yn yr
ogof oedd un o brif ddelweddau beirdd yr Eisteddfod yn y cyfnod hwn, o
T.Gwynn Jones i R.Machno Humphreys, ac ailddyfodiad Arthur yn symbol o'r dadeni cenedlaethol.
Y Fedal Ryddiaith
Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|