1900-1913 Awelon Croes
Gwawriodd y ganrif newydd pan oedd oes Victoria yn machlud. 'Roedd y rhyfel
am diriogaeth yn Ne Affrica rhwng y Boeriaid a'r Prydeinwyr yn ei
anterth, a'r Ymerodraeth Brydeinig yn ei grym. 'Roedd y papurau newydd,
gan gynnwys y wasg Gymreig, yn cynyddu mwy a mwy yn eu poblogrwydd.
Hon oedd oes aur newyddiaduriaeth.
Y Tor卯aid a enillodd Etholiad Cyffredinol
troad y ganrif, ond cadarnle'r Blaid Ryddfrydol oedd Cymru. Un o brif
wleidyddion y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru oedd David Lloyd George,
yr Aelod Seneddol dros Fwrdeistref Caernarfon. Erbyn troad y ganrif
'roedd y gwleidydd ifanc disglair hwn wedi bod yn areithio yn yr Eisteddfod
Genedlaethol ers deng mlynedd, ac 'roedd deugain mlynedd arall o areithio
o'i flaen. Diwrnod Lloyd George ar ddydd Iau'r cadeirio oedd un o
uchelfannau pob eisteddfod. Er mai'r Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr oedd
prif bleidiau Prydain, 'roedd pethau'n dechrau newid.
ymlaen...
|
|
|