Cyfres
Teledu
-
Rhaglen 1: 1900 - 1913 'Awelon Croes'
Thema ganolog: Gwrthdaro: y gwrthdaro rhwng yr hen werthoedd a'r gwerthoedd
newydd, rhwng Cymru Oes Victoria a Chymru'r ugeinfed ganrif; rhwng
Sosialaeth a Chyfalafiaeth; rhwng anterth a dechreuad cwymp yr Ymerodraethau
Mawrion; rhwng aelodau'r Orsedd, cefnogwyr a dilynwyr Iolo Morganwg,
a'r ysgolheigion newydd, dinoethwyr Iolo; rhwng beirdd hen-ffasiwn
yr Orsedd a beirdd 'yr Ysgol Newydd'; rhwng cenedlaetholdeb a Phrydeindod.
Diweddir y rhaglen ar drothwy'r Rhyfel Mawr, sef canlyniad anochel
y gwrthdaro hwn rhwng yr hen drefn a'r drefn newydd.
-
Rhaglen 2: 1914 - 1937 'Y Gaer Fechan Olaf'
Thema ganolog: Adwaith ac Ad-drefnu: y Rhyfel Mawr a'r adwaith iddo yng
Nghymru; a'r modd y bu'n rhaid i Gymru aildrefnu yn fewnol ar 么l cael ei
sugno i mewn i gyflafan y pwerau mawrion; y modd y dechreuwyd amau a
chwalu'r hen safonau a fodolai cyn y Rhyfel, a'r Eisteddfod, yn arbennig, yn
wynebu cyfnod o argyfwng gyda rhai yn proffwydo ei thranc. Y gri i
ddiwygio'r Eisteddfod yn uchel drwy'r cyfnod ( gan gyfateb i'r gri i
ddiwygio Cymru ei hun ), nes cyrraedd uchafbwynt yn Eisteddfod Machynlleth
pan unwyd y ddwy elfen elyniaethus, Cymdeithas yr Eisteddfod a'r Orsedd, yn
swyddogol, a ffurfio corff newydd, Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, a
gosod yr Eisteddfod ar seiliau cadarnach ar gyfer y dyfodol.
-
Rhaglen 3: 1938 - 1955 'Yr Oes Oer'
Thema ganolog: Rhyfel, effaith y Rhyfel, parhad rhyfel dan gysgod y Bom ac
wrth i'r Swyddfa Ryfel fygwth dwyn tir Cymru, y Rhyfel oer: yr Ail Ryfel
Byd yn torri cyn i'r Eisteddfod gael cyfle i weithredu'r drefn newydd, a
gorfod ailaddasu eto ar 么l y Rhyfel, nes cyrraedd y flwyddyn dyngedfennol
bwysig honno, 1955, pan ddechreuwyd s么n am foddi pentref Cwm Cwelyn, yr
ysgogiad mwyaf i genedlaetholdeb Cymreig y cyfnod diweddar. Y rhaglen yn
diweddu'n negyddol gyda bygythiad y Llywodraeth i foddi Cwm Tryweryn.
-
Rhaglen 4: 1956 - 1966 'Wyneb Llwm y Cwm Cau'
Thema ganolog: disgyflogi, diboblogi, a bygwth dwyn tir Cymru yn arwain at
ddechreuad Oes y Brotest: cenedlaetholdeb ar gynnydd yn sg卯l y bygythiad i
foddi Cwm Tryweryn, darlith 'Tyned yr Iaith' Saunders Lewis a ffurfio Cymdeithas
yr Iaith, a phroblemau economaidd a gwleidyddol Cymru yn arwain at gyfnod y
Brotest; a buddigoliaeth Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin efaill yn pwyntio i
gyfeiriad Oes y Brotest.
-
Rhaglen 5: 1967 - 1979 'Mawrth y Gwrthod a'r Gwerthu'
Thema ganolog: Oes y Brotest: cyfnod y protestio mawr yng Nghymru ac ym Mharis,
America, a mannau eraill; yr Arwisgo yng Nghymru yn chwalu gobeithion llawer ond
yn caledu cenedlaetholdeb, protestio mawr gan Gymdeithas yr Iaith ar faes yr
Eisteddfod, ond y cyfan yn diweddau mewn siom gyda phleidlais negyddol Cymru yn
y Refferendwm ar Ddatganoli ym 1979, ac ymateb T.James Jones yng nghystadleuaeth y Goron.
-
Rhaglen 6: 1980 - 1999 'Dydd Dychwel yr Haul'
Thema ganolog: Llwyddiant: symud ymlaen ar 么l siom y Refferendwm ar Ddatganoli
at brotest Gwynfor Evans ym 1980 ynghylch sefydlu Pedwaredd Sianel Cymru;
sefydlu'r Sianel ym 1982, a diweddu gyda Chymru yn ymateb yn gadarnhaol i'r ail
Refferendwm ar Ddatganoli, a'r Cynulliad ar ei ffordd ar gyfer y mileniwm newydd.
Crynhoi'r cyfan ynghyd ( drwy gyfrwng cerddi'r Eisteddfod yn ystod dau ddegawd
olaf y ganrif ), a diweddu'n weddol optomistaidd ar 么l canrif gythryblus, gan
edrych ymlaen at gyfnod newydd cyffrous yn hanes Cymru, ond gan sylweddoli ar
yr un pryd fod problemau yn bod yng Nghymru o hyd, ac y bydd sawl brwydyr i'w
hymladd yn y dyfodol.
Cyfres
Radio
-
Yr Etifeddiaeth.
Rhaglen fydd yn gofyn os y gwnaeth yr ugeinfed ganrif
gyflwyno gwyl iach a ffyniannus i'r ganrif newydd.
-
Beirdd a Ballu.
Yn y rhaglen hon trafodir y dewis o destunau, a beirniaid
i'r prif gystadleuthau llenyddol. Gofynir hefyd os mai dechrau gyrfa barddonol tag
uchafbwynt ydi ennill Coron neu Gadair. A pham nad oes merch
wedi ennill y Gadair.
-
Cerdd, Cyngerdd a'r Cyrion.
Yma byddwn yn gofyn os ydi'r elfennau yma yn rhy hen ffasiwn.
Gofynnir hefyd os y dylid datblygu'r gweithgareddau ar y cyrion fel mae gwyl Caeredyn wedi i wneud.
-
Nod Cyfrin neu nonsens.
Yn y rhaglen hon byddwn yn trafod os oes angen diwygio'r Orsedd.
-
Atal y wobr.
Yma byddwn yn ystyried parhad yr Eisteddfod fel gwyl gystadleuol.
-
A Fydd Heddwch'.
Yn y rhaglen olaf byddwn yn ceisio rhagweld dyfodol y Brifwyl.
|
|
|