成人论坛


Explore the 成人论坛

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dydd deychwel yr haul

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人论坛 Homepage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

1980 - 1999 Dydd Dychwel Yr Haul

Erbyn chwater olaf yr ugeinfed ganrif 'roedd y cyfrifiadur wedi dechrau disodli'r teipiadur, ac 'roedd chwyldro mawr technolegol arall y ffordd. Byddai'n rhaid i Gymru fod yn rhan o'r chwyldro technolegol newydd ac o gynllun y Llywodraeth i sefydlu pedwaredd sianel deledu os oedd i oroesi yn y byd modern. Ond 'roedd hyder a gobeithion y Cymry yn isel ar dechrau'r wythdegau.

Cafodd cefnogwyr y Cynulliad i Gymru eu siomi gan ganlyniad y Refferendwm ar Ddatganoli. 'Roedd pedwar ugain mlynedd o ymgyrchu dros ryw fath o ymreolaeth wedi mynd i'r gwellt. Edrychodd Gerallt Lloyd Owen, yn ei awdl fuddugol, ' Cilmeri ', yn Eistedfod Abertawe, 1982, yn 么l dros saith canrif at ddiwrnod arall o anobaith i Gymru.

Ni allai'r Datganolwyr weld ar y pryd mai mesur gan Blaid Lafur wan a rhanedig oedd y mesur dros Ddatganoli, ac nad oedd sawl aelod o'r Blaid Lafur ei hun yn gefnogol iddo. Ymatebodd y cenedlaetholwyr mewn dwy ffordd i ergyd farwol y bleidlais nacaol, ymgyrchu o blaid cael y bedwaredd sianel i Gymru ac ymgyrchu yn erbyn problem gynyddol y tai haf. Ymateb yn eithafol i sefyllfa enbydus unwaith eto, fel gyda boddi Cwm Celyn a'r Arwisgo yng Nghaernarfon.

Torri Addewid...

 

Radio a Teledu

 
 

Torri Addewid

Gan dybio fod Cymreictod ar drai, torrodd y Llywodraeth newydd ei haddewid i roi ei sianel ei hun i Gymru pe c芒i ei hethol. Arweiniodd y siom at brotestio tanbaid. Cyhoeddodd Gwynfor Evans ei fod yn bwriadu ymprydio, hyd farwolaeth pe bai raid, hyd nes y c芒i Cymru ei sianel ei hun. Bwriadai gychwyn ei ympryd ar y chweched o Hydref, 1980. Gwrthododd toreth o Gymry adnewyddu eu trwydded deledu; arestiwyd a charcharwyd llawer o genedlaetholwyr eraill am beri difrod i drosglwyddyddion. Dwysaodd y protestio yn Eisteddfod Dyffryn Lliw ym 1980. Daeth llwyfan y genedlaethol yn llwyfan gwleidyddol unwaith yn rhagor; daeth maes y Brifwyl yn faes y brotest. Pan geisiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Nicholas Edwards, adael maes yr ^Wyl yn Nyffryn Lliw ar ddydd y coroni, eisteddodd nifer o aelodau o Gymdeithas yr Iaith o flaen ei gerbyd i'w rwystro. Nid dyna'r unig brotest gan Gymdeithas yr Iaith yn Nyffryn Lliw. Chwalwyd arddangosfa'r Awurdod Darlledu Annibynnol ar y maes.

Anerchwyd y protestwyr yn Nyffryn Lliw gan Gwynfor Evans ei hun. Gan fod Cymru wedi gwrthod cael senedd, 'roedd yn rhaid i'r 'Steddfod weithredu fel senedd i'r Cymry. ' 'Does gynnon ni ddim senedd na llwyfan ble y gallwn fynegi ein teimladau fel cenedl. Yr Eisteddfod yw'r unig le ac mae'n rhaid ei defnyddio hi fel llwyfan gwleidyddol,' meddai Geraint Bowen, yr Archdderwydd ar y pryd, ar 么l i rai o brif swyddogion y 'Steddfod gondemnio'r protestwyr. 'Roedd rhai o lywyddion y dydd, fel J. E. Caerwyn Williams, wedi datgan ar goedd eu bod yn cefnogi bwriad Gwynfor Evans i ymprydio, ac 'roedd hynny wedi ennyn gwrthwynebiad y rhai a gredai na ddylai'r 'Steddfod weithredu fel San Steffan y Cymry.

Mewnfydwyr...



About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy