1938 - 1955 Yr
Oes Oer
Hon oedd oes aur y cyfrwng newydd, y radio. 'Roedd cyfrwng y ffilm hefyd yn mynd o nerth i nerth; hwn oedd y cyfnod pan oedd Hollywood yn ei anterth. Ond nid cyfrwng adloniant yn unig oedd ffilm. 'Roedd cynulleidfa'r sinem芒u yn awr yn gallu gweld 芒'u llygaid eu hunain brif ddigwyddiadau'r byd, boed hwyl, boed hunllef.
Er mor boblogaidd oedd y cyfuniad o lun a sain yn y sinem芒u, 'roedd y wasg yn gyfrwng pwerus o hyd. Y wasg oedd y cyfrwng a gyflwynai'r newyddion gyntaf, hyd nes i'r radio ddatblygu gwasanaeth newyddion cyflawn.
Nid radio oedd yr unig gyfrwng i ddatblygu rhwng y ddau Ryfel Byd. Ond 'doedd neb o ddifri yn meddwl fod llawer o ddyfodol i'r 'radio-olwg' neu'r 'radio-lygad', er i'r 成人论坛 ddechrau darlledu rhaglenni teledu yn rheolaidd ym 1936. Yn y cyfamser 'roedd darlledu sain yn cyrraedd y rhan fwyaf o gartrefi. Daeth darlledu i Gymru ym 1923 pan agorwyd gosraf 5WA yng Nghaerdydd. Darlledwyd y rhaglen Gymraeg gyntaf ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, ond ar y cyfan trahaus oedd agwedd y 成人论坛 at yr iaith, a bu'n rhaid brwydro i gael rhaglenni Cymraeg.
Franco a
Ffasgiaeth...
|
|
|