Ymateb a sylwadau Alan Llwyd
'Roedd Rhamantiaeth y beirdd hefyd yn ei
ffordd yn brotest yn erbyn y pryddestau diwinyddol, gyda'u disgrifiadau o
harddwch corfforol merch yn enghraifft o rywioldeb yn dechrau treiddio drwy
ffug-barchusrwydd a rhagrith crefyddol y cyfnod Fictoriaidd yng Nghymru. Dyma gyfnod 'Cwlt
y Cnawd'. 'Roedd y Mudiad Rhamantaidd yn awr yn ei anterth, a merched lledrithiol
oedd merched y beirdd. Ond 'roedd hollt enfawr rhwng cyfnos rhamantiaeth y
beirdd a gwawr y rhyddfrydiaeth newydd a oedd yn torri uwch y wlad. Tra oedd y beirdd yn breuddwydio am gnawd
a 'thrwsiad glana'r oesoedd' 'roedd y merched protestgar yn gwisgo gwisg wahanol iawn. 'Roedd sawl aelod o'r
rhyw deg yn rhai dig. Nid oedd y rhain am dderbyn eu dyletswyddau traddodiadol, fel cynnal
teulu, rheoli'r aelwyd a gofalu am y gegin, a gadael i ddynion reoli tynged y wlad.
Y Goron Testun. Pryddest: 'Yr Arglwydd Rhys'
Enillydd: W. J. Gruffydd
Beirniaid: Ben Davies, R. Silyn Roberts
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd
Chwech yn unig yn cystadlu, a phryddest
gymedrol yn hytrach na disglair yn ennill. Ar lawer ystyr yr oedd 'Trystan
ac Esyllt' yn well pryddest na hi, mewn mannau o leiaf.
Y Fedal Ryddiaith
Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|