Ymateb a sylwadau Alan Llwyd
Er bod hwn yn gyfnod o wrthdaro ac o
aniddiddigrwydd ymysg rhai merched a gweithwyr, 'roedd y gerdd hon yn adlewyrchu meddylfryd y
cyfnod Edwardaidd: cyfnod o ffyniant a chyfnod o heddwch a hawddfyd. 'Roedd mwy o amser i hamddena ar 么l i'r undebau ymladd
am lai o oriau gwaith ac ar 么l cyllideb chwyldroadol Lloyd George. Awdl 'Yr
Haf' yw un o awdlau gorau'r ugeinfed ganrif hyd y dydd hwn. Cyrhaeddodd y
Mudiad Rhamantaidd rhyw fath o anterth ym 1910. Awdl am Anfarwoldeb Serch, sef un o brif them芒u'r beirdd
rhamantaidd, oedd 'Yr Haf', ac 'roedd yn drwm dan ddylanwad cyfieithiad John
Morris-Jones o benillion Omar Khayy芒m, fel llawer o gerddi'r Rhamantwyr.
Y Goron Testun. Pryddest: 'Ednyfed Fychan'
Enillydd: Crwys
Beirniaid: Cadfan, Gwynedd, Gwili
Cerddi eraill: daeth Alafon yn ail.
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd
Pryddest arall ar destun hanesyddol, dull o
ganu a oedd wedi hen chwythu ei blwc erbyn 1910. Pryddest anarbennig yw pryddest Crwys.
Y Fedal Ryddiaith
Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|