Lleoliad yr Eisteddfod
Eisteddfod Radio Ym Mhen-y-bont ar Ogwr y bwriadwyd cynnal Eisteddfod 1940, ond ofnai'r
Llywodraeth y gallai'r dref fod yn darged i gyrchoedd o'r awyr. 'Roedd yn
ardal ddiwydiannol a chanddi'r ffatri arfau fwyaf yn y byd. Ystyriwyd wedyn
cynnal yr Eisteddfod yn Aberpennar, ond barnai'r Llywodraeth y gallai'r dref honno hefyd fod yn darged
milwrol. Ymgynghorodd pwyllgor brys 芒'r 成人论坛. Defnyddiodd Cynan gyfrwng y dydd i wneud cyhoeddiad:
'Yn y cyfwng hwn y daeth swyddogion y 成人论坛 ymlaen gyda chynnig rhagorol, a
awgrymwyd i gychwyn gan Mr T. Rowland Hughes, ac a dderbyniwyd yn llawen ac
yn ddiolchgar gan ein Pwyllgor fel gwasanaeth cenedlaethol gwirioneddol. Y
cynnig mewn gair oedd hyn: bod cyd-bwyllgor bychan o gynrychiolwyr y Cyngor
a'r 成人论坛 i gydweithredu ar gynllun i geisio achub hynny a ellid o
raglen Eisteddfod un naw pedwar dim drwy gyfrwng y radio.'
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol
- 2 filiwn rhwng 19 a 27 oed yn cael eu galw i'r
Lluoedd Arfog.
- Cig yn cael ei ddogni.
- Himmler yn gorchymyn adeiladu Auschwitz.
- Churchill yn dod yn Brif Weinidog gan olynu
Chamberlain.
- Milwyr Prydeinig yn dianc o Dunkirk.
- Brwydr Prydain yn cychwyn.
- Polisi heddychlon a fabwysiadwyd yn swyddogol gan Blaid Cymru yn y Rhyfel. Yn
nhyb aelodau'r Blaid, rhyfel rhwng y pwerau mawrion oedd hwn, a
chredent fod gan Gymru yr hawl i beidio ag ymladd.
- Dim ond ychydig aelodau a ddilynodd y llwybr hwn
a charcharwyd 12 ohonynt.
- Ymosodiadau o'r awyr ar Gaerdydd, gorsaf y Llu
Awyr ym Mhenrhos, Gwynedd, Doc Penfro a Llandarsi.
- Trotski yn cael ei lofruddio ym Mecsico.
- Geni Tom Jones, neu Thomas Woodward, ym
Mhontypridd.
Archdderwydd
Crwys
Y Gadair
Testun. Awdl: Agored
Enillydd: T. Rowland Hughes ('Pererinion')
Beirniaid: G. J. Williams, R. Williams Parry, William Morris |