Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd 'Yr oedd Thomas Parry yn dymuno cadeirio Euros
Bowen, ond yr oedd yn rhy dywyll gan y ddau feirniad arall. Yn sicr, Thomas
Parry oedd yn gywir. Mae 'Genesis' Euros Bowen yn awdl gyfoethog iawn mewn
mannau, er gwaethaf sawl darn afrwydd ei fynegiant. Y Goron
Testun. Pryddest: ' Y Bont'
Enillydd: Tom Parri-Jones.
Beirniaid: Cynan, Gwilym R. Jones, Waldo Williams
Cerddi eraill: mynnai Waldo goroni pryddest Dafydd Owen, ond ni fynnai'r ddau
feirniad arall gytuno ag ef. 'Roedd pryddestau gan Dafydd Jones, Ffair-rhos, Gwilym
Morris. Gwyn Erfyl a Rhydwen Williams yn y gystadleuaeth hefyd. Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd Cerdd anodd ar ffurf dialog oedd y bryddest
hon, ond fe lwyddodd Tom Parri-Jones i danlinellu rhybudd a wnaed gan bobl
fel Saunders Lewis, sef bod derbyn yr egwyddor ' Bread before beauty' yn
warth ar y genedl. I nifer 'roedd y bwriad i adeiladu gorsafoedd niwcliar yn
Nhrawsfynydd a'r Wylfa ym M么n yn Benyberth arall. Ond 'doedd neb yn fodlon gwrando ar y proffwydi gwyrdd cynnar, ac aeth y gwaith
yn ei flaen. Y Fedal Ryddiaith
Testun: Llyfr Taith
Enillydd: W. Llewelyn Jones: Ar Grwydr
Tlws y Ddrama
Gwilym T. Hughes
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|