Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd 'Roedd awdl anfuddugol James Nicholas unwaith eto
yn gyfoes ac yn trafod problemau'i chyfnod. 'Roedd y bardd yn cydnabod oes y 'never had it so good' yng
nghanol y pumdegau pan welwyd y pum miliwn o setiau teledu ar aelwydydd Prydain
yn dyblu mewn degawd, a phan ddaeth y car yn hanfod yn hytrach nag yn foethusrwydd. Ond mae yna elfen broffwydol
ddychrynllyd yn yr awdl anfuddugol hon hefyd. 'Roedd pris i'w dalu. 'Roedd
y diwydiant glo a fu unwaith yn talu am y bywyd bras yn awr yn dechrau dioddef dirwasgiad eto.
Oddi ar i'r pyllau gau 'roedd y tipiau'n gornwydydd ar hyd y cymoedd, ac ymhen
misoedd 'roedd cysgod un ohonynt, uwch pentref Aberfan, wedi ei daflu ar
draws yr holl fyd. 'Roedd awdl Dic Jones yn gyfoes o ran ei deunydd hefyd. Y Goron
Testun. Drama fydryddol: agored
Enillydd: Tom Parry-Jones ('Y Gwybed')
Beirniaid: Cynan, Bobi Jones, Thomas Parry
Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd Drama fydryddol rymus iawn ei dychan mewn
mannau.
Y Fedal Ryddiaith
Testun: Cyfrol o ysgrifau
Enillydd: Eigra Lewis Roberts
Tlws y Ddrama
Neb yn deilwng
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|