Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd Gofynnwyd am awdl 'mewn cynghanedd gyflawn' yn hytrach nag ar y mesurau traddodiadol arferol. Manteisiodd rhai o'r cystadleuwyr ar ofynion penagored y gystadleuaeth ac anfon cerddi vers libre cynganeddol i'r gystadleuaeth, gan gynnwys y bardd buddugol. 'Roedd y gerdd fuddugol wedi ei chynganeddu'n fedrus, a llwyddodd y bardd i adrodd yr hen stori am y Twrch Trwyth yn chwedl Culhwch ac Olwen yn rhwydd ac yn gyfareddol, ond ni chafwyd unrhyw olwg newydd ar y chwedl, nac ar y Twrch ei hun fel symbol. Y Goron
Testun: Dilyniant o gerddi digynghanedd
Enillydd: Bryan Martin Davies ('Darluniau ar Gynfas')
Beirniaid: Euros Bowen, J. Eirian Davies, Gwilym R. Jones
Cerddi eraill: Yn uchel iawn yn y gystadleuaeth, ac yn ail gan Gwilym R. Jones, yr oedd Moses Glyn Jones, Prifardd y Gadair, 1974. Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd Dilyniant crefftus am fro mebyd y bardd. Y Fedal Ryddiaith
Gwaith creadigol ar ffurf dyddiadur neu lythyrau neu'r ddau
Enillydd: Neb yn deilwng
Tlws y Ddrama
Drama hir
Enillydd: Neb yn deilwng o'r Tlws, ond rhannwyd y wobr o 拢100 yn gyfartal rhwng Gwilym T. Hughes, Urien Wiliam, Jennet Eirlys Thomas a T. James Jones
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|