Lleoliad yr Eisteddfod Rhuthun (Dyffryn Clwyd a'r Cylch)
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol
- Rhyfel Fietnam yn dod i ben.
- Gweithwyr y rheilffordd a gweithwyr sifil yn mynd ar streic.
- Cyflwyno Treth ar Werth.
- Rhyfel Yom Kippur rhwng Yr Aifft ac Israel.
- Yr orsaf radio annibynnol gyntaf, LBC yn Llundain, yn agor.
- Oherwydd problemau p^wer ac olew, y Llywodraeth yn gwahardd ceir rhag gyrru'n gyflymach na 50m yr awr, ac yn gorfodi sianeli teledu i ddiweddu eu gwasanaeth am 10.30 pm.
- Agor Llyn Brianne.
- Comisiwn Kilbrandon yn argymell sefydlu cynulliad etholedig i Gymru.
- Marlon Brando yn gwrthod ei Oscar mewn protest yn erbyn y modd y c芒i Indiaid America eu trin.
- Lyndon B. Johnson, Picasso, Nancy Mitford, Tolkein, Casals, W. H. Auden a Noel Coward yn marw.
Archdderwydd
Brinli
Y Gadair
Testun. Awdl: Agored
Enillydd: Alan Llwyd ('Llef Dros y Lleafrifoedd')
Beirniaid: Mathonwy Hughes, James Nicholas, Gwyn Thomas
Cerddi eraill: Donald Evans, Einion Evans ac Idwal Lloyd. Awdl Idwal Lloyd a ffafriai Gwyn Thomas, awdl a fu'n aflwyddiannus yng nghystadleuaeth y Gadair ym 1957, 1959 a 1962. |