Lleoliad yr Eisteddfod Aberteifi a'r cylch
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol
- Penodi George Thomas yn Ysgrifennydd Gwladol Cymreig.
- Moscow yn galw Thatcher yn 'Iron Lady' a 'wicked cold war bitch'.
- Harold Wilson yn cyhoeddi'n annisgwyl ei fod am ymddeol fel Prif Weinidog, a James Callaghan yn ei olynu.
- Y Llywodraeth yn cyhoeddi mesur i greu cynulliadau yng Nghymru a'r Alban.
- Sefydlu Awdurdod Datblygu Cymru.
- Jeremy Thorpe yn ymddiswyddo fel arweinydd y Rhyddfrydwyr, a David Steel yn ei olynu.
- Cant yn cael eu lladd a mil yn cael eu hanafu yn nherfysg Soweto, De Affrica.
- Yr Unol Daleithiau yn dathlu 200 mlynedd o annibyniaeth.
- Llong ofod yn glanio ar y blaned Mawrth.
- Cyfnod o sychder mewn haf twym.
- Ethol Jimmy Carter yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Mao Tse-tung, Paul Robeson, Howard Hughes, Jean Paul Getty, Sybil Thorndike, Agatha Christie, L. S. Lowry, Fritz Lang, Benjamin Britten, Stanley Baker a Richard Hughes yn marw.
Archdderwydd
Bryn
Y Gadair
Testun. Awdl: 'Gwanwyn'
Enillydd: Alan Llwyd
Beirniaid: B. T. Hopkins, James Nicholas, Gwyn Thomas
Cerddi eraill: awdl waharddedig Dic Jones, ac awdlau gan Donald Evans, John Hywyn, Einion Evans |