Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:
Awdl am yr elfennau materol ym mywyd Cymru a oedd yn bygwth ei thraddodiadau diwylliannol ac ysbrydol. Nodir pum peth sy'n llygru bywyd ysbrydol Cymru: y gwersylloedd gwyliau yng Ngheredigion, y cloddio am olew ym m么r Iwerddon, y rocedi yn Aber-porth, yr orsaf niwcliar yn Nhrawsfynydd, a'r ymchwil am aur yn Sir Feirionnydd. Awdl grefftus a chyfoes ei neges.
Y Goron
Testun. Pryddest: 'Hil', addas i'w chyflwyno ar gyfrwng fel y teledu, radio neu ar lwyfan
Enillydd: Donald Evans
Beirniaid: Bryan Martin Davies, Dyfnallt Morgan, Alun Llywelyn-Williams
Cerddi eraill: Elwyn Roberts, Prifardd y Goron, 1975 Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Pryddest sy'n cyfateb yn thematig i awdl y Gadair, gyda'r orsaf rocedi yn Aber-porth yn symbol o allu dinistriol dyn, a'r 'hil' yn y bryddest, gwerin milltir sgw芒r y bardd, yn cynrychioli grymoedd cynhaliol a chreadigol dyn ar hyd yr oesoedd 鈥 dyn fel dinistriwr a dyn fel goroeswr a dyfeisiwr. Pryddest gynganeddol gelfydd iawn. Y Fedal Ryddiaith
Cyfrol o ryddiaith greadigol
Enillydd: R. Gerallt Jones (Triptych)
Tlws y Ddrama
Drama hir
Enillydd: Neb yn deilwng
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|