Y Goron
Testun. Dilyniant o gerddi 'Serch' neu gerddi 'Siom'
Enillydd: Meirion Evans
Beirniaid: Derec Llwyd Morgan, Bryan Martin Davies, W. R. P. George
Cerddi eraill: Cerddi gwrthodedig T. James Jones a Jon Dressel; Eifion Powell Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Er bod y beirniaid yn amlwg yn meddwl mai cerddi Ianws oedd y gorau, gwobrwywyd Meirion Evans. Unwaith yn rhagor 'roedd rheolau'r gystadleuaeth wedi eu torri. 'Roedd y ffugenw yn arwyddocaol: Ianws oedd Ionawr, duw dau-wyneb y Rhufeiniaid, ond Mawrth y ddwy Gymru ac Awst y ddau fardd oedd arwyddoc芒d y ffugenw. Cywaith rhwng dau fardd oedd y cerddi buddugol, ac ni chaniateir cywaith yn y gystadleuaeth. Nid chwilio am Goron yr oedd T. James Jones, ond am glust i'w siom yn ei gydwladwyr wedi canlyniad y refferendwm ar ddatganoli. Cerddi Ianws oedd protest fawr olaf y saithdegau. Yr oedd dilyniant T. James Jones yn gywaith oherwydd ei fod ef a Jon Dressel wedi bod yn gweithio ar y cerddi ochr yn ochr 芒'i gilydd. T. James Jones yn Gymraeg, Jon Dressel yn Saesneg. Y Fedal Ryddiaith
Stori fer hir
Enillydd: R. Gerallt Jones (Cafflogion)
Tlws y Ddrama
Y ddrama orau yn y cystadlaethau canlynol: comedi neu ff芒rs ar gyfer cwmniau drama gwledig, drama hir, drama fer.
Enillydd: J. Selwyn Lloyd (cystadleuaeth y ddrama hir)
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|