Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd
Awdl dyner er cof am ferch dalentog y bardd, Ennis. Yr 'ynys' yn yr awdl yw 'Ynys Hiraeth'. Ynddi y ceir y llinellau syfrdanol:
Yma mae mynwent i'w mam a minnau,
un 芒'i phob diwrnod yn Sul y Blodau.
Yn y tawelwch bydd i'r petalau
eu llond o siarad lle nid oes eiriau ...
Dyma'r gyntaf o'r gyfres o awdlau marwnad a gafwyd yn yr wythdegau. Enillodd brawd Einion Evans, T. Wilson Evans, y Fedal Ryddiaith yn yr un Eisteddfod.
Y Goron
Testun. Pryddest: 'Clymau'
Enillydd: Eluned Phillips
Beirniaid: James Nicholas, Dr John Gwilym Jones, Nesta Wyn Jones
Cerddi eraill: John Gruffydd Jones. Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd Nid Margaret Thatcher oedd yr unig fenyw i fod ar ei hennill wedi rhyfel y Malvinas, ond fe gymerodd Eluned Phillips agwedd dra gwahanol i agwedd ymffrostgar y Prif Weinidog. 'Roedd y bryddest yn cyfeirio at y dioddef a welwyd ar fwrdd y Sir Galahad, ac yn gresynu fod pobl o'r un hil, o Gymru ac o Batagonia, yn tanio ar ei gilydd.
Y Fedal Ryddiaith
Nofel fer
Enillydd: T. Wilson Evans (Y Pabi Coch)
Tlws y Ddrama
Drama hir
Enillydd: William Owen
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|