Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd
Cystadleuaeth wan ryfeddol oedd hon, gyda phedwar yn unig yn cystadlu. Lluniodd Aled Rhys Wiliam 'Ymddiddan y Pen a'r Galon ynghylch 'y Petheu Bychein' ', awdl a oedd yn fyfyrdod ar fywyd, ar amser, ar farwolaeth ac ar Dduw. Awdl anwastad yw hon. Ceir llinellau epigramatig cofiadwy ynddi yn gymysgu darnau rhyddieithol, fflat a llawer o hen drawiadau cynganeddol.
Y Goron
Testun. Pryddest: 'Llygaid'
Enillydd: John Roderick Rees
Beirniaid: Gwyndaf, Pennar Davies, Dafydd Rowlands
Cerddi eraill: Megan Lloyd-Ellis oedd yr ail am y Goron, ac er iddo gytuno i goroni John Roderick Rees, a chytuno hefyd mai ef oedd y gorau, Megan Lloyd Ellis a ffafriai Dafydd Rowlands i ddechrau. Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd Creodd y bryddest hon gryn drafodaeth oherwydd ei bod yn cyfleu safbwynt gwahanol i'r safbwynt a goleddai gwrthwynebwyr y mewnfudo i gefn gwlad Cymru a welwyd ers yr Ail Ryfel Byd. 'Roedd yn well gan John Roderick Rees weld estroniaid yn byw mewn hen fythynnod yn hytrach na gweld y bythynnod hynny yn furddunod gwag ar draws Cymru. Cymeradwyodd barodrwydd y mewnfudwyr i ddysgu sgiliau newydd, a'u canmol am eucyfraniad i'r gymdeithas, ac am barodrwydd rhai ohonyn nhw i ddysgu Cymraeg i'w plant. Y Fedal Ryddiaith
Dyddiadur dychmygol yn ymwneud 芒 bywyd mewn cymdeithas neilltuedig
Enillydd: John Idris Owen (Y T^y Haearn)
Tlws y Ddrama
Drama hir
Enillydd: Gwynne Wheldon
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|