Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd
Robat Powel
oedd y dysgwr cyntaf i ennill y Gadair. 'Roedd ef ei hun wedi gweld sawl
tro ar fyd. Os oedd brwdfrydedd y dysgwyr yn dod 芒 hyder newydd i
Gymru, 'roedd y cyni economaidd ar ddechrau'r wythdegau yn gweithio'n
groes i'r hyder hwnnw. Collwyd miloedd o swyddi wrth i weithiau dur gau.
'Roedd Robat Powel yn dyst i'r distawrwydd a adawyd ar 么l i'r
ffwrneisiau ddiffodd yng Ngwent.
Y Goron
Testun. Pryddest
neu ddilyniant o gerddi: 'Glannau'
Enillydd: John Roderick Rees
Beirniaid: Donald Evans, Dafydd Owen, Gwyn Thomas
Cerddi eraill: Gerwyn Williams oedd yr ail yn 么l Donald Evans a Dafydd
Owen. Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd Pryddest
farwnadol dyner am Jane Mary Walters, y wraig a fu'n gyfrifol am fagu'r
bardd wedi iddo golli ei fam yn ddwyflwydd a hanner oed. Pryddest
ddiffuant. Y Fedal Ryddiaith
Dyddiadur yn cofnodi treigl y tymhorau
Enillydd: Meg Elis (Cyn Daw'r Gaeaf)
Tlws y Ddrama
Drama hir
Enillydd: Neb yn deilwng
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|