Lleoliad yr Eisteddfod
De Powys, Llanelwedd
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol
- Dau fachgen 10 oed yn llofruddio bachgen dwy oed, James Bulger, yn Lerpwl.
- Yr IRA yn ffrwydro bom yn Warrington ac yn lladd bachgen 4 oed.
- Yr FBI yn ymosod ar adeiliad yn Wakoble lle'r oedd aelodau o gwlt 'Branch Davidian' dan arweiniad David Korlesh. Lladdwyd 86 gan gynnwys 11 o blant.
- Gwr ifanc dy, Stephen Lawrence, yn cael ei lofryddio mewn ymosodiad hiliol yn nwyrain Llundain.
- Yr Arlywydd Clinton yn dod 芒 Yitzhak Rabin, Prif Wweindog Israel, a Yassir Arafat, arweinydd y PLO, ynghyd.
- Nifer y cleifion a arhosai am wely mewn ysbyty wedi cyrraedd dros filiwn.
- Y Dywysoges Diana yn cyhoeddi ei bod am gefnu ar fywyd cyhoeddus.
- Llywodraeth De Affrica yn penderfynu cyflwyno'r awenau i lywodraeth 芒 mwya frif du.
- Cau glofeydd y Parlwr Du, Taff Merthyr a Betws, a hynny'n golygu mai glofa'r T^wr oedd yr unig lofa ddofn ar 么l yng Nghymru.
- Y gwaith o ddigomisiynu atomfa Trawsfynydd yn cychwyn a cholli o swyddi.
- Y llong bananas olaf o India'r Gorllewin yn glanio yn Y Barri.
- Cau'r gwaith nyddu neilon ym Mhont-y-p^wl, gwaith a fu'n cyflogi 4,000.
- John Redwood yn Ysgrifennydd Cymru.
- Agor tair milltir ychwanegol o'r M4 yn Llansawel.
- Agor ffordd osgoi y Trallwm.
- Sefydlu gwasanaeth catamaran rhwng Caergybi a Dun Laoghaire.
- Tri yn Llys y Goron, Caernarfon, ar gyhuddiad yn ymwneyd 芒 'Meibion Glynd^wr'. Dau yn ddieuog, ond Si么n Aubrey Roberts yn cael ei garcharu am 12 mlynedd.
- Llifogydd yn Llandudno yn gorfodi 2,500 i adael eu tai.
- Y Frenhines yn dechrau talu trethi.
- Ofnau y gallai plant a oedd yn chware Nintendo ddioddef ffitiau.
- Jo Grimmond, Ian Mikardo, Dr Daniel Jones, Donald Box, George Chapman, Eic Davies, Dyfed Glyn Jones, Gwilym R. Jones, Geraint Dyfnallt Owen a Gomer M. Roberts yn marw.
Archdderwydd
John Gwilym Jones
Y Gadair
Testun. Awdl: 'Gwawr'
Enillydd: Meirion MacIntyre Huws
Beirniaid: Dic Jones, Gerallt Lloyd Owen, Gwynn ap Gwilym
Cerddi eraill: Dymunai Gerallt Lloyd Owen roi'r Gadair i Emyr Lewis. Hilma Lloyd-Edwards oedd ffefryn Gwynn Ap Gwilym ar un adeg. 'Roedd Tudur Dylan Jones hefyd yn un o'r tri anfuddugol gorau. |