Roedd adeiladu'r argae i greu 'llyn d诺r croyw' yn elfen allweddol yn y cynlluniau i ail-ddatblygu Bae Caerdydd.
Mae'r argae yn cronni ceg yr afonydd Taf a'r Elai gan greu llyn d诺r croyw 200 hectar a darparu 13km o lan y d诺r.
Er yn atyniadol roedd yna dipyn o wrthwynebiad i'r cynlluniau gan drigolion lleol a ofnai y byddai'r argae yn codi lefel naturiol y d诺r yng Nghaerdydd ac achosi tai i orlifo.
Bu'n rhaid cael pump mesur tan i'r Senedd ganiat谩u'r ddeddf fyddai'n arwain y ffordd ar gyfer ailddatblygiad.
Cyn gorlifo'r Bae yn 1999, fflatiau llaid a morfeydd heli oedd yr ardal, gyda llanw afon Taf yn cyrraedd Blackweir, i'r gogledd o ganol y ddinas.
Mae diflaniad d诺r y m么r o'r Bae wedi newid y cynefinoedd sydd ar gael i'r planhigion a'r ffawna i ffynnu.
Cyn hyn roedd yr ardal yn gartref i boblogaeth fawr o adar y d诺r ac adar hirgoes; arferai heigau o fingryniaid wneud eu ffordd i fyny'r afon mor bell 芒 gwrthglawdd Parc Bute.
Mae adar y d诺r ac adar hirgoes wedi adleoli i ardaloedd wedi'u diogelu gerllaw megis gwarchodfa cronfa lefelau Gwent tu allan i Gasnewydd.
Mae rhai rhywogaethau megis llyriad y m么r a glaswellt spartina wedi goroesi'r newidiadau ond mae lefel cyson y d诺r wedi disodli'r parth rhynglanw, fuasai wedi cefnogi nifer o rywogaethau.
Mae cynllun wedi cychwyn i hybu samwn, sewin a brithyllod m么r n么l i'r Taf i fagu, gan gynnwys rhodfa bysgod - y mwyaf yn Ewrop - yn yr argae ei hun.
Yn 么l i gychwyn y daith
|