Cyn adeiladu'r Gyfnewidfa Lo yn Sgw芒r Mount Stuart man preswyl ydoedd 芒 gardd yn y canol. Cafodd ei ddisodli gan fasnach wrth i'r ddinas dyfu mewn llewyrch, a dyna pam nad yw'n edrych fel sgw芒r rhagor.
Arferai masnachwyr glo ddangos pris cyfnewidiol y glo ar lechi tu allan i'w swyddfeydd neu daro bargeinion yn y tafarnau lleol.
Wrth i Gaerdydd dyfu'n brif borthladd y byd teimlwyd ei bod hi'n briodol cael adeilad pwrpasol ar gyfer hyn felly adeiladwyd y Gyfnewidfa Lo rhwng 1883 a 1886 yn 么l cynlluniau'r pensaer Edwin Seward.
Yn dilyn ei agoriad, buasai perchnogion y pyllau glo, perchnogion llongau a chwmn茂au cysylltiedig yn cwrdd yn ddyddiol ar lawr y neuadd fasnach ble cytunwyd ar lafar a lle gellid defnyddio offeryn newydd yr oes, y teleffon.
Yn ystod yr awr brysura o ran masnach rhwng hanner dydd ac un o'r gloch gellid gweld hyd at 200 o ddynion yn gweiddi a gwneud ystumiau. Tybir bod hyd at 10,000 yn mynychu'r adeilad ryw ben bob dydd.
Cafwyd tipyn o gynnwrf yn 1907 pan darwyd bargen gwerth miliwn o bunnau yn y Gyfnewidfa. Ar un cyfnod, yma y penderfynwyd ar bris glo drwy'r holl fyd.
Agorwyd nifer o fanciau a swyddfeydd goludog o gwmpas y sgw芒r - T欧 Baltic, Adeilad yr Ocean, Adeiladau Cory, Adeiladau Cambrian, nifer ohonyn nhw dal yn sefyll ac yn arddangos cerfluniau morol ardderchog.
Ond gyda Chaerdydd yn ymwneud ag un cynnyrch yn unig roedd y ddibyniaeth ar lo yn gwneud dociau'r Bute yn fregus i unrhyw dorri ar y gofyn am lo, ffaith ddaeth yn boenus o amlwg yn y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd.
Gyda diwedd y rhyfel dirywio fwyfwy wnaeth y dociau. Cau wnaeth y Gyfnewidfa Lo yn 1958 gyda diwedd ar allforio glo yn 1964.
Yn adeilad urddasol o hyd, clustnodwyd y Gyfnewidfa Lo yn 1979 fel cartref posibl i Gynulliad arfaethedig Cymru, ond cafodd y cynllun hwnnw am ddatganoli ei wrthod gan bobl Cymru mewn refferendwm.
Heddiw, mae'r Gyfnewidfa Lo yn cael ei defnyddio fel canolfan adloniant a chelfyddyd.
Yn 么l i gychwyn y daith
|