Roedd Mehefin 21, 2006, yn ddiwrnod cyffrous i 40 o fyfyrwyr, cyn fyfyrwyr ac aelodau o staff Coleg Amaethyddol y Gelli Aur, wrth iddynt gychwyn ar daith i Seland Newydd.
Yn eu plith yr oedd Arwyn Bowen, Iestyn Davies a Hywel James sy'n byw ar ffermydd cyfagos yn ardal Tre-lech.
Mae Arwyn a Iestyn yn astudio cwrs HNC/D tra bo Hywel yn astudio cwrs ND, cyrsiau sy'n canolbwyntio ar amaethyddiaeth.
Cysylltiad Cymreig Roedd y tri yn hynod o ffodus i gael mynd ar yr ymweliad tair wythnos yn teithio o Auckland ar Ynys y Gogledd i Queenstown ar Ynys y De.
Ymwelwyd â nifer o wahanol fathau o ffermydd gan gynnwys rhai defaid, llaeth a gwartheg tew neu bîff.
Roedd ymweld â fferm Pentwyn lle codir gwartheg bîff a defaid yn hynod o ddiddorol yn ôl y bechgyn oherwydd ei chysylltiadau Cymreig cryf.
Y perchnogion yw Mr a Mrs Collier a'u mab, Ross.
Bu Mrs Collier mewn cysylltiad â'r Gelli Aur y Pasg eleni pan oedd ar ymweliad â Chymru ac yn beirniadu mewn Sioe Geffylau yn Llanelwedd.
Roedd yr ymweliadau â'r gwahanol ffermydd yn Seland Newydd yn bwysig yn ogystal â diddorol i'r ffermwyr ifanc gan ei fod yn gyfle i weld sut y mae ffermwyr Seland Newydd yn ffermio ffermydd mawrion gyda stoc enfawr.
Gwelwyd sut y maent yn ymdopi ac ennill arian teg heb swbsidis.
Dywedodd Arwyn, Hywel a Iestyn i'r ymweliad fod yn gymorth mawr iddynt hwy ar gyfer ffermio yn y dyfodol.
Perfformio'r Haka Nid ffermio yn unig aeth a'u bryd gyda chyfle i ymuno a sawl gweithgarwch bythgofiadwy arall gan gynnwys ymweliad ag ysgol
draddodiadol y Maori lle gwelwyd perfformio cân a dawns yr Hakka.
Hefyd, bu'r garfan yn sgïo ar fynyddoedd y Remarkables a'u golygfeydd gwefreiddiol.
Ond yn ôl y bechgyn y cyffro mwyaf oedd Shootover Jet - cwch oedd yn teithio i lawr afon ar gyflymdra uchel gan droi 180 gradd.
Cyrhaeddodd y bechgyn adref ar Orffennaf 13 yn fwrlwm o atgofion am gwych.
Cyhoeddir yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch
|