Hwn fydd yr ail dro i ymweliad o'r fath gael ei drefnu gan Gymdeithas Gymraeg Aukland.
Bu'r un cyntaf yn hynod o lwyddiannus gyda'r Gymdeithas nid yn unig wedi codi digon o arian i gludo dau blentyn o Gymru yno ond hefyd gwmni iddyn nhw.
Taith y Llewod Bwriedir i'r ymweliad nesaf fod yr un adeg ag ymweliad tîm rygbi'r Llewod â Seland Newydd yn ystod Mehefin a Gorffennaf nesaf.
"Bydd tocynnau i ymweld ag un o'r gemau prawf," meddai Jane Watt, ysgrifennydd pwyllgor Adenydd o Gymru - Wings from Wales 2 sydd newydd ymweld â Chymru i drefnu pethau yr ochr yma.
"Bydd y trip yn cynnwys ymweliadau â phob math o leoedd o ddiddordeb yn Seland Newydd," ychwanegodd.
Bwriad y Gymdeithas ydi casglu digon o arian i dalu am yr holl gostau teithio gan gynnwys toriadau yn y daith awyr a theithio o fewn Seland Newydd ar ôl cyrraedd.
"Pan drefno ni hyn o'r blaen, yn 1990, bu'r ymateb gystal - nid yn unig o du'r gymuned Gymraeg ond y gymuned yn gyffredinol - yr oeddem ni'n gallu fforddio i dalu am ymweliad gan ddau blentyn a'u teuluoedd," meddai.
"Rydym wrth ein bodd yn deall fod y ddau blentyn hynny mewn cyfnod o adferiad ar hyn o bryd ac mewn iechyd," ychwanegodd.
Gwledydd eraill Yn ogystal â chynnal ei gweithgareddau codi arian ei hun megis noson fis Awst i gydfynd a dathliadau chwe chanmlwyddiant Owain Glyndŵr mae'r Gymdeithas yn casglu arian gan fusnesau hefyd ac yn gwahodd cyfraniadau o Gymru ei hun.
Hefyd, derbyniodd cymdeithasau yn y gwledydd lle bydd y daith i Seland Newydd yn cael ei thorri wahoddiad i gyfrannu.
Yn ystod ei hymweliad diweddar â Chymru cyfarfu Jane â chymdeithas ganser LATCH yn Ysbyty Llandochau sydd â'r cyfrifoldeb o ddewis pwy fydd yn teithio.
"Dywedodd gweithwraig gymdeithasol yno wrthyf i'r ymweliad cyntaf fod yn un llwyddiannus dros ben ac i'r plant fod ar eu mantais wedyn," meddai Jane.
Gwerthu crys Prif weithgarwch codi arian y Gymdeithas ar hyn o bryd yw gwerthu crys rygbi Cymru a wisgwyd gan Brett Simpkinson mewn gêm ryngwladol yn erbyn Siapan fis Hydref, 1999.
Bydd cynigion am y crys yn cael eu derbyn tan fis Tachwedd 18, 2004, ar johnwatt@ihug.co.nz.
Y cynnig uchaf ar hyn o bryd ydi mil o ddoleri Seland Newydd.
Cyfrif banc yr apêl ydi: Wings from Wales 2, PO Box 11-455, Ellerslie, Aukland, Seland Newydd.
|