Mawr eu braint gan Gwion Lewis - arbenigwr ar faterion rhyngwladol
Medi 2005 Rydw i wedi ailddarganfod y kiwi fruit. Pe bawn i'n driw i'r Gymraeg, mae'n debyg y byddwn i'n cyfieithu enw'r ffrwyth ond mae'n amheus gen i a fyddai Glenys a Rhisiart, hyd yn oed, mor gywir â hynny.
Yn sicr, ni fentrais erioed ofyn i'r ferch yn Cefni Fruit, Llangefni, am, "Sach o ffrwythau ciwi", ac yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni, nid yw'n fwriad gen i ddechrau gwneud hynny ychwaith.
Ond mae'n drueni fod enw Cymraeg y kiwi fruit yn un mor ddiddychymyg.
O ystyried priodoleddau'r ffrwyth, a'i wreiddiau yn nwyrain Asia, oni fyddai'n llawer mwy o hwyl cyhoeddi mai "cwsberen Tsieina" sydd i bwdin?
Bu'n freuddwyd gen i ers talwm (wel, y bore 'ma) i lansio'r enw newydd drwy goginio paflofa fawr ar Wedi 3; ysywaeth, ymddengys nad yw Elinor yn ateb ei hebost ar hyn o bryd.
Cyn ichi ofyn, na, dydw i ddim yn gweithio yr wythnos hon ac, oes, mae gen i ormod o amser ar fy nwylo.
Serch hynny, wrth ddiberfeddu cwsberen Tsieina â llwy de yn ddiweddar, a'r radio yn bloeddio adroddiadau o bedwar ban yn y cefndir, fe'm hysbyswyd fod fy obsesiwn â'r ffrwyth yn un tra amserol.
Etholiad Oherwydd yr etholiad cyffredinol yno'n ddiweddar mae Seland Newydd - am unwaith - yn cael cryn sylw yn rhyngwladol.
Fel yr Almaen, mae'r wlad yn wynebu ansicrwydd oherwydd na chafodd yr un blaid ddigon o bleidleisiau i ffurfio llywodraeth yno.
O ganlyniad, mae'r ddwy blaid fwyaf - y Blaid Lafur a'r Blaid Genedlaethol - yn ceisio trechu ei gilydd drwy ffurfio clymblaid â phleidiau llai.
Nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd yn Seland Newydd - bu'r prif weinidog Llafur presennol, Helen Clark, yn arwain clymblaid ers chwe blynedd.
Yr hyn sy'n wahanol y tro hwn yw'r pleidiau y mae Clark yn gorfod eu swyno i'w chefnogi: am y tro cyntaf - mae ei dyfodol yn nwylo'r lleiafrif diwylliannol, y Maori.
Credir i'r Maori, pobl frodorol Aotearoa (Seland Newydd), lanio yno rhyw fil o flynyddoedd yn ôl.
Daeth yr Ewropeaid o hyd i'r wlad yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a daeth o dan adain Prydain yn 1840 pan arwyddodd arweinwyr y Maori gytuniad arbennig â'r Goron yn ardal Waitangi.
Bellach, y mae tua 600,000 o'r pedair miliwn sy'n byw yn Seland Newydd yn ystyried eu hunain yn Faorïaid, ac ers ychydig dros flwyddyn mae ganddyn nhw blaid wleidyddol sy'n mynnu eu bod nhw'n cael mwy o hawliau.
Mae'r llywodraeth eisoes yn neilltuo arian ar gyfer gwella safonau addysg a iechyd y Maori ond mae arwyddion nad yw'r mwyafrif gwyn am weld hyn yn parhau.
'Rhaniadau difrifol' Yn groes i'r disgwyl, llwyddodd y Blaid Genedlaethol i ddyblu ei phleidlais yn yr etholiad diweddar ar ôl addo y byddai'n amddifadu'r Maori o'r hawliau arbennig sydd ganddynt ar hyn o bryd.
Yn ôl ei harweinydd, Don Brash, ni ddylai'r llywodraeth roi nawdd arbennig i leiafrifoedd hiliol, safbwynt sy'n gwbl groes i bwyslais y Cenhedloedd Unedig ar gryfhau pobloedd brodorol y byd.
Ar y llaw arall, dywed Helen Clark fod llwyddiant y Blaid Genedlaethol yn dangos fod yna "raniadau difrifol" yn Seland Newydd, a bod angen i'r wlad wynebu'r "anoddefgarwch" sydd ar gynnydd yno.
Gobaith Clark yw y bydd y rhethreg hon yn llwyddo i ddarbwyllo aelodau seneddol newydd Plaid y Maori y dylsent gydweithio â hi i greu llywodraeth newydd.
Llwyddodd Clark i ennill 50 o seddi yn yr etholiad - 11 yn fyr o'r nifer sydd ei angen i gael mwyafrif yn y senedd.
Mae saith aelodau o'r Blaid Werdd a'r Blaid Flaengar eisoes wedi cyhoeddi eu bod nhw'n fodlon ymuno â hi gan olygu fod yn rhaid iddi ddod o hyd i bedwar arall.
Yn eironig ddigon, pedair o seddi a gipiodd Plaid y Maori, gan olygu ei bod hi'n mynnu sylw gwleidyddion ar draws y pleidiau am y tro cyntaf.
Er gwaethaf yr ymdrechion i wthio'r Maori i'r ymylon yn ystod yr ymgyrchu, nhw yn unig, bellach, all sicrhau y bydd Clark wrth y llyw am drydydd tymor yn olynol.
Dywed sylwebwyr yn Seland Newydd na ellir dychmygu'r Maori yn cefnogi Brash yn hytrach na Clark ond mae'n arwyddocaol nad yw'r blaid wedi cyhoeddi ei phenderfyniad eto.
Bargeinio Y tu ôl i ddrysau caeëdig, mae'n ymddangos fod y Maori yn gwneud yn fawr o'u mantais fathemategol ac yn dweud yn glir wrth Clark fod yna ddwy ochr i bob bargen wleidyddol.
O'r herwydd, gallwn ddisgwyl nid yn unig y bydd mwy o arian yn cael ei glustnodi ar gyfer y Maori dros y blynyddoedd nesaf, ond hefyd y gallai Seland Newydd ddechrau cwestiynu ei pherthynas â Phrydain o'r newydd.
Bu'n amlwg ers tro nad yw Helen Clark yn un o gefnogwyr brwd y Frenhines.
Ddwy flynedd yn ôl, pan ymwelodd Elisabeth II â'r wlad, yr oedd Clark dramor am ran helaeth o'i hamser yno.
Y llynedd, dywedodd ei bod yn "anochel" y bydd Seland Newydd yn weriniaeth ymhen ychydig flynyddoedd.
Mae'n wir na fu'r 'berthynas Brydeinig' yn un o brif themâu'r ymgyrchu cyn yr etholiad ond byddai disgwyl i hynny newid pe bai'r Maori yn rhan o unrhyw lywodraeth newydd.
Mae nifer yn eu plith yn dal yn gandryll na chadwodd Prydain at ei haddewid yng Nghytuniad Waitangi i barchu hawliau'r Maori i'w tir eu hunain.
Erbyn Chwe Degau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd Prydain yn meddiannu tir y Maori yn feunyddiol a hynny'n arwain at gyfres o ryfeloedd gwaedlyd a drechodd y bobl frodorol maes o law.
Ers hynny, bu'r Maori o dan anfantais yn gymdeithasol ac yn economaidd, ac yn brwydro yn y llysoedd i adennill y tir a gollwyd.
Sail pob protest yw'r egwyddor tiro rangatiratanga, y gred fod ganddynt hawl foesol i fwy o hunan-lywodraeth. Yn ddi-os, dyma'r egwyddor fydd hefyd yn llywio trafodaethau Plaid y Maori â Helen Clark y mis hwn.
Gobeithio, felly, i'r Tywysog Charles wneud yn fawr o'i ymweliad â Seland Newydd yn gynharach eleni gan ei bod yn edrych yn fwyfwy tebygol na chaiff fyth ddychwelyd yno fel Brenin y wlad.
Dolennau
|