成人论坛


Explore the 成人论坛

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人论坛 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Wyn Jones Owen,Patricia McRobb a Charles Gwynn Y cyntaf i ddathlu Gwyl Dewi
Teisennau cri - ond cysgod clwy'r traed a genau yng ngwres Seland Newydd

Dydd Iau, Mawrth 1, 200

Mae'n debyg mai y rhai cyntaf yn y byd i ddathlu Gwyl Dewi eleni oedd Cymdeithas Gymraeg Wellington yn Seland Newydd.

Ond taflodd y clwy traed a genau sy'n bygwth Cymru rywfaint o'i gysgod dros y dathliadau.

"Y mae cryn bryder yma ynglyn ag ymwelwyr o Brydain yn cyrraedd rhag ofn y bydd y clwy yn difetha'r economi. Y mae cwestiynau yn cael eu gofyn yn y senedd am y peth," meddai Cymraes sy'n byw yn Wellington.

Chwifio'r Ddraig Goch

Fodd bynnag, dathlu gwyl ein nawddsant oedd yn flaenaf ym meddyliau criw a ddaeth ynghyd y tu allan i senedd-dy'r wlad am wyth o'r gloch ar fore Mawrth 1 - gryn ddeng awr o'n blaenau ni yng Nghymru.

Ar fore heulog braf codwyd baner y Ddraig Goch y tu allan i'r senedd-dy yn dilyn caniatad gan Lefarydd y senedd, y Gwir Anrhydeddus Jonathan Hunt, i'r faner chwifio yno gydol y diwrnod.

"Ychydig oriau wedyn ymunodd criw bychan â staff Coleg Merched Wellington am baned a theisennau cri a chaneuon Cymreig yn cael eu canu gan Wyn Jones Owen, Patricia McRobb a Charles Gwynn (yn y llun)," meddai Margot Griffith mewn ebost at 成人论坛 Cymru'r Byd.

Ychwanegodd mai ond ar y Sadwrn cynt y cyrhaeddodd Wyn y wlad. Ddydd Sul mynychodd wasanaeth i gofio am Ddewi Sant a ddydd Llun cyflwynodd berfformiad o Dylan Thomas yn Under Milk Wood.

"Erbyn Mawrth y cyntaf yr oedd o'n dechrau meddwl mai breuddwyd oedd ei daith i Seland Newydd a'i fod yn dal yn Nghymru - wel, ar wahan i'r tywydd wrth gwrs!" meddai Margot.

Bu Patricia yn byw yn Seland Newydd ers peth amser a bu Charles ar wyliau yno ers bron i flwyddyn gyda Sylvia.

Ar gyfer y diwrnod arddangoswyd lluniau, posteri, lamp glowr a hyd cyn oed gwrwgl.

"Ond yn anffodus yr oedd yn rhaid i'r Cennin Pedr fod yn rhai ffug!" meddai Margot.

"Ond fe wnaeth y cyfan y diwrnod yn un cwbl arbennig."

Cerdd fuddugol

Yr oedd Margot ar ymweliad a'i chynefin yn ardal Llanelli yn gynharch eleni ac wedi iddi ddychwelyd adref enillodd cerdd a gyfansoddodd yn sôn am ei thristwch yn gadael Cymru Gwpan Raphael Jones mewn cystadleuaeth flynyddol gan y gymdeithas Gymraeg yn Wellington.


Enillodd stori fer o'i heiddo Gwpan Ellen Griffin er, meddai, nad oes ganddi unrhyw ddawn lenyddol! Yn hytrach, mae'n priodoli ei llwyddiant i'r cyfnod a dreuliodd yng Nghymru - "Gwlad yr awen."

Bydd yr awyrgylch Gymreig yn parhau yn Wellington yfory gyda Margot yn mynd a chriw o 40 i weld Ray Henwood o Abertawe yn perfformio mewn cynhyrchiad o Playing Burton yn cael ei gyfarwyddo gan Guy Masterson sy'n or-nai i Richard Burton.

Bydd blas cwbl Gymreig i'r achlysur gyda theisennau cri wedi eu paratoi gan Margot sy'n cefnogi Hosbis Mary Potter yn lleol lle bu ei gwr farw yn 1993.

"Mae'n boeth iawn yma, yn 26 ar ei uchaf ac 18 ar ei isaf gyda gwaharddiadau tân ym mhobman," meddai.




awstralasia

Seland Newydd
Trefnu ymweliad i blant canser

Caffi Cymreig yn Seland Newydd

Llais y Maori

Y cyntaf i ddathlu Gwyl Dewi

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Golwg ar ffermydd Seland Newydd

Ymweliad Hywel

Diwylliant mewn peryg

Tywydd gwell wedi trochfa




About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy