|
|
Neges Gŵyl Dewi Bush!
Cafwyd neges Dydd Gŵyl Dewi annisgwyl eleni - oddi wrth Arlywydd yr Unol Daleithiau, George W Bush.
|
Yn ei neges mae'n talu teyrnged i gyfraniad amryw o Gymru i wahanol agwddau o fywyd yn yr Unol Daleithiau gan gynnwys gwleidyddiaeth a ffilm.
Er y gallai fod wedi enwi llawer iawn mwy ymhlith y y rhai o dras Gymreig y mae'n cyfeirio atyn nhw y mae Thomas Jefferson ac Abraham Lincoln.
Dyma gyfieithiad o'r neges: Ar y Dydd Gŵyl Dewi hwn anfonaf fy nghyfarchion cynhesaf o Unol Daleithiau'r America at bobl Cymru.
Heddiw, yr ydym yn anrhydeddu'r cyfeillgarwch rhyngom.
Gwnaeth mewnfudwyr Cymreig ac Americaniad Cymreig gyfraniad mawr tuag at lywodraethu'r America. Yr oedd nifer o'r rhai a arwyddodd y Datganiad Annibyniaeth o dras Gymreig fel ag yr oedd 11 o Arlywyddion gan gynnwys Thomas Jefferson ac Abraham Lincoln.
Yr oedd J.P. Morgan yn un o nifer o Gymry ym maes datblygiad economaidd yr America, yn enwedig yn y Mid-Atlantic a'r uwch Midwest.
Cyfrannodd Cymry-Americanaidd at gelfyddyd America bydded trwy lenyddiaeth Jack London neu waith arloesol D.W. Griffith ym myd ffilmiau.
Heddiw, saif pobl yr Unol Daleithiau a Chymru gyda'i gilydd i hyrwyddo rhyddid a chydraddoldeb ar draws y byd.
Oherwydd yr hanes a rannwn yr ydym yn gryfach ac yn well.
Ar ran pobl yr America ac oddi wrth fy nheulu i i'ch un chwi dymunaf Ddydd Gŵyl Dewi bendigedig i bobl Cymru ac i Gymry lle bynnag y byddont.
George W. Bush
Arlywydd
Mawrth 1, 2006
|
|