Robert J. Jones, y llywydd, yn son am Gymdeithas Gymreig Dew Sant Ardal y Brifddinas yn Albany, Talaith Efrog Newydd.
Cymdeithas Gymreig Dewi-Sant Ardal y Brifddinas am y tro cyntaf ym 1929, yn Schenectday, Efrog Newydd, o dan yr enw St. David's Society of Schenectady. Yn y pedwardegau, sefydlwyd cymdeithas arall yn Albany, prifddinas y dalaith, rhyw saith milltir i'r dwyrain. Gweithdy Thomas Edison yma Yn ôl yn y 20au, y 30au a'r 40au yr enw ar Schenectady oedd, "The City that Lights the Halls of the World" a "The Electric City" gan mai yma yr oedd pencadlys General Electric a Thomas Edison yn cadw gweithdy yno! O westy yn y ddinas y teledwyd rhaglen deledu gyntaf yr Unol Daleithiau ac wedyn lleolwyd sianel deledu gyntaf y wlad yno. Ond gyda'r blynyddoedd daeth gwelodd Schenectday "amserau drwg" a doedd dim digon o bobl i gynnal dwy gymdeithas ac fe'u hunwyd gydag enw un Albany yn cael ei gadw. Cant o aelodau Wrth gwrs, mae'r ffaith bod cymdeithas Gymreig yma o gwbl yn destun rhyfeddod achos er bod gan ardaloedd fel Utica a Granville yn Nhalaith Efrog Newydd gysylltiadau Cymreig cryf nid oedd "gwladfa" Gymreig yn y brifddinas a carpet baggers oedd aelodau'r gymdeithas gyntaf - fel heddiw - pobl a ddaeth yma i weithio gyda GE neu gyda llywodraeth y dalaith. Ond hyd yn oed yn ystod yr amserau drwg parhaodd y Gymdeithas i gynnig rhaglenni Cymreig ac ar hyn o bryd y mae bron i gant o aelodau, a thua chant arall o "gyfeillion". Mae cyfarfod bron bob mis ac yr ydym yn dathlu Gwyl Dewi-Sant ddiwedd Chwefror neu gychwyn Mawrth. Mae Cymanfa Ganu ym mis Hydref. Ymdrechwn i gynnig rhaglenni gwahanol gydol yr amser megis Te Mawr, cyngerdd canu gwerin, Gwyl Ffraid/Santes-Dwynwen, a phicnic i gydfynd a'r Gymanfa a Gwyl Dewi-Sant. Yn dysgu Cymraeg Nid yn unig y mae saith myfyrwraig yn mynychu dosbarthiadau Cynmraeg ers tair blynedd ond y mae pedwar wedi ymuno a dosbarth newydd ar gyfer rhai sydd heb astudio'r iaith o'r blaen. Mae'r myfyrwyr ar ein cyrsiau yn amrywio mewn oed o 12 i 80 oed Delwedd newydd Yr ydym yn hynod obeithiol wrth edrych ymlaen at y dyfydol gyda tho ifanc braf iawn yn gweithio'n galed i newid delwedd draddodiadol cymdeithasau Cymreig yr Unol Daleithiau o fod yn glybiau y "Blue Hairs" yn llawn hen bobl sydd heb weld y Gymru gyfoes ac sydd ddim eisiau ei gweld. Wrth gwrs, dydyn ni ddim eisiau colli'r hen genhedlaeth ychwaith ac ymdrechir yn llwyddiannus i godi pontydd rhwng yr hen a'r newydd. .
Cyfarfyddodd Lluniau: Cymanfa Ganu'r gymdeithas gyda Mary Jane Davis Highfield, athro ac ieithegydd ym Mhrifysgol Albany, yn darllen o'r Ysgrythur a Darhon Rees-Rohrbacher yn arwain y gynulleidfa (uchod). Beth am anfon hanes eich cymdeithas Gymraeg chi atom ni hefyd. Ebostiwch 成人论坛 Cymru'r Byd
|