Yr wythnos hon maen nhw'n dathlu canmlwyddiant dyfodiad y Daeargi Cymreig yn yr Unol daleithiau. Mae Ioan Mai, o Lithfaen, Pen-llyn, yn un o fridwyr llwyddiannus y brid ac yn arbenigwr ar hanes Y ci bach doeth a ffyddlon "Unwaith y byddwch yn cyfarfod â'r ci bychan gyda'r bersonoliaeth fawr ar dudalennau llyfr, wnaiff dim y tro nes y byddwch wedi'i gyfarfod wyneb yn wyneb, galon wrth galon. Wedyn fe ddewch i wybod pam fod y Daeargi Cymreig yn arwain y ffordd'." Mae'r Americaniaid yn dathlu canmlwyddiant dyfodiad y Daeargi Cymreig i'w gwlad yr wythnos hon. A daw'r geiriau hyn o'r llyfr The Welsh Terrier Leads The Way, cyfrol gan Bardi Mclennan a sgrifennwyd fel rhan o'r dathliadau.
Nid yw hi'n son am gampau'r ci yr ochr hon i'r Iwerydd. Digon dweud iddo fod yn bencampwr yr holl fridiau yn Crufts, sioe gwn fwya'r byd, ddwywaith yn ystod y degawd dwetha. Ymysg yr enwogion a fu'n berchen y ci Cymreig, meddai McLennan, yr oedd yr Iarll Clement Attlee. Yn wir, newidiodd ef y Llew a'r Ungorn ar ei arfbais am luniau o ddau ddaeargi! Ychwanegodd hefyd y geiriau Lladin Labor omnia vincit (gwaith sy drech na phopeth). Mae'n ffaith, hefyd, i'r Iarll fynd ati i fridio'r cwn, ond wnaeth o erioed werthu yr un ohonynt. A be feddyliech chi yw logo'r Americanwyr? Taffy was a Welshman, Taffy stole my heart not beef gan ychwanegu'r geiriau Lladin, Sapiens Fidelis - doeth a ffyddlon. Gwir y geiriau. Felly y bu'r cwn hyn yn y ty acw ers dyddiau fy mhlentyndod a fy mraint i fu cael cydnabod disgynyddion y bridwyr a roes fod i'r cwn cyntaf i ymddangos fel cwn sioe yn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. I Bwllheli y daeth y Bargyfreithiwr Walter Glyn, tra ar ei wyliau ym Mrynhir, Cricieth, yn lle ymuno â busnes llongau ei dad yn Lerpwl. Ei ferch, Janet Hazell, fyddai'n son wrthyf am y troeon hyn yn ystod ei hymweliadau blynyddol â Chricieth. Chwith fu ei cholli ddwy flynedd yn ôl. Wedi ei stwffio mewn amgueddfa Diau na fyddai y Daeargi Cymreig yn bod fel ci sioe onibai am ei thad. English Black and Tan Terrier oedd ei enw cyn i Walter Glyn fynd i'r afael â'r Kennel Club yn Llundain, a phrynu ci bach ym Mhwllheli a'i enwi yn Dim Saesonaeg. Os byth yr ewch i'r Amgueddfa Brydeinig yn Tring fe'i gwelwch wedi'i stwffio ar silff, a golwg digon hiraethus arno. Mae Bardi McLennan yn cydnabod mai Walter Glyn oedd cymwynaswr pennaf y Daeargi Cymreig, fel hanesydd o Goleg y Drindod Caergrawnt, Rhydychen, beirniad, awdur erthyglau a llysgennad mwyaf y brîd. Cerdded i'r Ty Gwyn Tybed beth fuasai'r arloeswyr yn ei feddwl o Charlie - y Daeargi a gerddodd i Dy Gwyn yr Unol Daleithau? Yn y chwe-degau, â'r Arlywydd Kennedy yn diodda anhwylder i'w gefn, trefnodd y meddyg iddo fynd i nofio'n gyson. Charlie oedd ei bartner cyson yn y pwll nofio. Gwelodd merch yr Arlywydd, Caroline, yn dda roi llun Charlie ar ddalen flaen cylchgrawn merched. Eto yn y llyfr, First Dogs - American Presidents And Their Best Friends, y fo, Charlie, y Daeargi Cymreig, yn dorgoch, yn ei wasgod oedd ar yr wyneb ddalen.
|