Hogyn o Fôn ydw i yn wreiddiol - o rhyw filltir tu allan o bentref gwledig Bodedern i fod yn fanwl - ond ers dros flwyddyn wedi byw yn anialwch Arizona a sefydlu busnes franchise rhyw ugain munud o ganol tref Phoenix.
Chwe mis yn ôl ymunais â Chynghrair Gymraeg Arizona ac roeddwn yn hapus iawn gweld gymaint o ddiddordeb yn yr hen wlad.
Dechreuodd yr gymdeithas yn 1999. Dysgodd John Good - Sioni Da - o Gwmafan - arlywydd y gymdeithas Gymraeg yn Arizona, Gymraeg ers tua chwe blynedd ac erbyn heddiw mae'n rhugl.
Mae gan y Gymdeithas dros 50 o aelodau sy'n cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau ymysg y cacti. Mesa Highland Games, Gwyl Geltaidd Tuscon a.y.y.b.
Pob nos Fawrth mae dros ddwsin yn dod at ei gilydd yng Nghanolfan Ddiwylliannol Wyddelig downtown Phoenix a phob nos Iau mae dwsin arall yn dal ati i ddysgu iaith y nefoedd lawr yn ail ddinas Arizona, Tuscon.
Mae gan bawb eu rhesymau personol. Mari Gilchrist gyda theulu a ffrindiau draw yn Llannerchymedd a Chaerdydd.
"Mae sŵn yr iaith yn hyfryd i fy nghlustiau. Mae angen arnaf i siarad Cymraeg. Hefyd, mae'n llawer o hwyl i synnu fy mherthnasau yng Nghymru.
"Dwi'n falch o weld grŵp mor egniol a rhugl yn siarad Cymraeg mor bell o'r famwlad.
"Bob Sadwrn cyntaf y mis rydym yn cael cyfarfod cymdeithasol. Cawsom ddangosiad o ffilm Hedd Wyn y mis diwethaf.
Mae'r cyfarfodydd yma yn agored i'r cyhoedd a chyfle i bobol Arizona gael mwy o wybodaeth am Gymru a beth sy'n digwydd yn ein gwlad heddiw."
John Good: "Yn Arizona rydym yn benderfynol o gynnal cymdeithas fywiog sy'n llawn hwyl. Nid hiraethu am oes a fu ydym ni ond eisiau codi proffil Cymru yn Arizona a thrwy weddill UDA wrth gefnogi a datblygu diwylliant, iaith, masnach a thwristiaeth rhwng y ddwy wlad."Am fwy o manylion amdanom cysdyllwtch â: Cynghrair Gymreig Arizona, 4802 E. Ray Road, Suite 23-510, Phoenix, AZ 85044. Ffon/Ffacs 602-532-7837. E-Bost: AZWELSH@aol.com
|