Mae dathliadau Gŵyl Dewi Cymry Chicago - neu Taffia Chicago fel maent yn galw eu hunain - yn dra adnabyddus.
Dyma'r gymdeithas Gymraeg gyda'r fwyaf blaengar ei brwdfrydedd dros Gymreictod yn yr Unol Daleithiau.
Ond eleni gwnaeth y Taffia yn well nag erioed yn ôl un o'r aelodau - trwy ennill cefnogaeth Cynrychiolydd seneddol y Dalaith i ddiwrnod nawddsant Cymru a hefyd wasanaeth y gantores Cerys Matthews.
Yng nghysgod Padrig Sant Bu'n destun gofid ymhlith Cymry alltud yn yr Unol Daleithiau ers rhai blynyddoedd fod dydd Padrig Sant yn cael cymaint o sylw ond Ddydd Gŵyl Dewi fawr ddim.
Eleni, roedd Taffia Chicago yn fwy awyddus nag erioed i wneud iawn am hynny meddai Brooke L K Parry mewn llythyr at y 成人论坛.
Ers dros fis bellach bu ymdrechion i berswadio gorsafoedd radio a theledu Chicago i grybwyll y diwrnod gan ofyn gyflwynwyr rhaglenni i ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb ac i chwarae caneuon gan artistiaid o Gymru.
Cydnabod y diwrnod Hefyd, ysgrifennodd sefydlydd y Taffia, David Parry a ymfudodd o Aberystwyth i'r Unol Daleithiau wyth mlynedd yn ôl, at Gynrychiolydd y Dalaith, Robert W Pritchard, yn tynnu ei sylw at y "cyfraniad enfawr" a wnaed gan Gymry nid yn unig i Chicago ond i dalaith Illinois yn gyffredinol.
Ers hynny mae Mr Pritchard wedi ymateb yn gadarnhaol i gais a wnaed gan David Parry am i Illinois ddilyn yn ôl troed Wisconsin lle mae deddf gwlad yn cydnabod Dydd Gwyl Dewi.
Cerys mewn limo Ar ben hynny llwyddodd David i berswadio'r gantores Cerys Matthews i gymryd rhan yn nathliadau Gwyl Dewi y Taffia yn nhafarn -Wyddelig! - Fado yng nghanol y ddinas.
Cyfarfu David Parry hi dro'n ôl ar gyfer y papur Americanaidd Cymreig Ninnau a dyna pryd y gofynnodd iddi a fyddai'n fodlon cymryd rhan.
Cytunodd hithau i deithio o'i chartref yn Nashville gyda dau gerddor arall, Mason Neely a Kevin Teel.
DdyddSadwrn, Chwefror 24, cludwyd Cerys a hwythau o faes awyr Chicago mewn limousine yn dwyn baneri'r Ddraig Goch ac yn cael ei yrru gan aelod arall o'r Taffia, Brian Geen, gynt o Gaerffili.
"A thra'r oedd y Taffia yn mwynhau coctels Draig Goch arbennig swynodd Cerys y cwmni gyda chaneuon o'i halbwm, Cockahoop, caneuon gwerin Cymraeg ac hyd yn oed amrywiadau o ganeuon o'i chyfnod gyda Catatonia," meddai Brooke Parry.
|