Er na chafwyd cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd heddiw fe gafwyd seremoni ar y prif lwyfan.
Seremoni i anrhydeddu dwy o lenorion plant Cymru - un yn awdur a rhes o enwau wrth ei henw, y llall yn awdur cymharol newydd.
Cyflwynwyd gwobrau Cymraeg Tir na n-Og i Emily Huws ac i Lleucu Roberts - y naill am y gyfrol Bownsio i blant ysgolion cynradd a'r llall am nofel Annwyl Smotyn Bach i blant ysgolion uwchradd.
Y lle delfrydol
Disgrifiodd Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, Gwerfyl Pierce Jones, brif lwyfan yr Urdd fel y lle delfrydol i gyflwyno y fath wobrau.
"Dyma'r man delfrydol i anrhydeddu awduron llyfrau Cymraeg i blant, ac rydym yn dra diolchgar i awdurdodau'r Urdd am ei gwneud hi'n bosibl i ni gyflwyno'r gwobrau i'r awduron buddugol ar lwyfan y Brifwyl, a hynny yng nghwmni cynifer o ddarllenwyr ifanc," meddai.
Hwn yw'r ail dro i'r seremoni gael ei llwyfannu fel hyn.
Cyflwynir y gwobrau am y llyfrau gorau i blant a phobl ifainc gan Gyngor Llyfrau Cymru. gyda 拢1,000 yr un gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth) a'r Cyngor.
Torri tir newydd
Nofel am Cadi, merch 11 oed yw Bownsio gan un awduron llyfrau plant mwyaf gweithgar Cymru.
Yn y nofel sy'n ymdrin 芒 gobeithion preifat a realiti bywyd go iawn caiff Cadi sioc o sylweddoli nad yw ei mam wedi marw a chaiff ei byd ei droi ben i waered.
Disgrifiodd y beirniaid hi fel nofel sy'n torri tir newydd gyda'r awdur yn trafod thema anodd mewn modd sensitif a gonest.
Er wedi ymddeol bellach dechreuodd Emily Huws sy'n byw yng Nghaeathro, Gwynedd. Sgrifennu pan yn athrawes n么l yn Saithdegau.
Mae'n awdur hynod o doreithiog ac wedi ennill gwobr Tir na n-Og bedair gwaith yn y gorffennol yn ogystal 芒 derbyn Tlws Mary Vaughan Jones am ei chyfraniad arbennig i faes llyfrau plant dros gyfnod o flynyddoedd.
Grymus a heriol
Disgrifwyd y nofel arall, Annwyl Smotyn Bach fel nofel rymus a heriol ar gyfer yr arddegau h欧n sy'n rhoi golwg arswydus ar dynged ein gwlad.
Yn y nofel mae Mam ofnus yn siarad 芒'r 'Smotyn bach' yn ei chroth, a thrwy gyfrwng ei dyddiadur, cawn ninnau gipolwg ar y Gymru newydd a'r tensiynau sydd rhyngddi hi a'i g诺r.
Yn 么l y beirniaid, mae hon yn nofel arloesol ac yn adleisio'r Gymru a ddisgrifiwyd yn Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis.
Mae Lleucu Roberts yn enedigol o Landre, ger Aberystwyth, ond yn byw yn Rhostryfan gyda'i g诺r a phedwar o blant. Er mai hon yw ei thrydedd nofel hi yw'r gyntaf ar gyfer pobl ifanc.
Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: "Rydym wrth ein bodd yn cael y cyfle i groesawu enillwyr Gwobrau Tir na n-Og i lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Mae awduron ac artistiaid llyfrau i blant a phobl ifanc yn gwneud cyfraniad pwysig i fywyd Cymru ac rydym yn falch o'u hanrhydeddu. 'Ry'n ni'n gobeithio y bydd plant a phobl ifanc sy'n dod i'r Eisteddfod yn mwynhau eu llyfrau."