Dadorchuddiwyd cerflun mewn metal wedi ei wneud o ddarnau o hen geir yn yr Eisteddfod heddiw.
Gwnaed y cerflun gan griw o blant blwyddyn 5, Ysgol Mount Stuart, Caerdydd, dan arweiniad y g么f a'r artist, Nia Wyn Jones.
Roedd yr ymarferiad yn ffrwyth partneriaeth rhwng yr Urdd, garej Gravells Cydweli a Chelfyddydau a Busnes Cymru a bydd y gwaith gorffenedig yn cael ei gyflwyno i Garej Gravells gan Nia a phlant Ysgol Mount Stuart heddiw, ddydd Mercher, am 11.00 yn Fflat Mistar Urdd
Iard sgrap
Mae Nia Wyn Jones yn dra adnabyddus am ei gwaith gof artistig ac newydd greu cofeb mewn metel i'r cartwnydd 'Gren' ar gyfer pencadlys newydd Media Wales yng Nghaerdydd.
Fe'i comisiynwyd gan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i arwain y plant tuag at greu y cerflun fel rhan o raglen Culture Step Celfyddydau a Busnes Cymru.
Dywedodd Nia mai'r cam cyntaf iddi hi a disgyblion Ysgol Mount Stuart oedd ymweld 芒 iard sgrap yn Nhremorfa.
"Yno, roedd modd inni ddewis deunyddiau gwych i fod yn rhan o'r model ac roedd hyn yn gychwyn gwych i'r prosiect," meddai.
Ymwelodd 芒'r ysgol chwe gwaith ar gyfer cwblhau'r model ac meddai prifathrawes yr ysgol:
Yr oedd yn fodd hefyd i dynnu sylw'r plant tuag at fodolaeth Eisteddfod yr Urdd a'i gweithgareddau.
"Mae'r disgyblion wedi cael amser gwych yn creu'r cerflun ac yn mynegi eu hunain mewn ffordd mor newydd a chyffrous. Maen nhw hefyd wedi bod yn edrych ymlaen at eu hymweliad cyntaf 芒'r Eisteddfod a chan mai dyma'r ysgol agosaf, yn ddaearyddol at faes yr Eisteddfod rydym yn falch iawn o fod yn cyfrannu at yr 诺yl fel hyn."
O Landaf
Bu cydweithio 芒 hwy o arwyddoc芒d arbennig i Nia a hithau'n dod o Landaf yn wreiddiol.
Graddiodd mewn Dylunio ym Mhrifysgol Wolverhampton gan gychwyn ar yrfa yn Llundain yn dylunio anrhegion i d欧 dylunio oedd yn cyflenwi John Lewis, Liberty a Debenhams.
Wedyn, sefydlodd ei busnes ei hun yn 1998 ac mae ganddi stiwdio yn ardal Birchgrove, Caerdydd.
Mae hi hefyd yn un o ohebwyr Wedi Saith ar S4C.
Dywedodd Jonathan Gravell, Rheolwr Gyfarwyddwr Garej Gravells, a oedd yn y Steddfod ar gyfer dadorchuddio'r cerflun y bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn eu garej.
"Rydym, fel cwmni yn mwynhau cydweithio gyda'r Urdd ac mae'r digwyddiad yma'n gyfle arall i blant elwa ar y cydweithio sydd wedi bod dros y blynyddoedd."
A dywedodd Yvonne Scott, prifathrawes yr ysgol, i'r holl brosiect fod yn brofiad gwefreiddiol i'r disgyblion.
"Mae'n nhw wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr at gael treulio'r diwrnod ar faes yr Eisteddfod heddiw a chael gweld eu gwaith gorffenedig. Dyma fydd eu hymweliad cyntaf 芒'r Eisteddfod a chan mai dyma'r ysgol agosaf at y maes yn ddaearyddol, rydym yn falch iawn o fedru cyfrannu at yr 诺yl eleni," meddai.
Disgrifiodd Rachel Jones, Cyfarwyddwr Celfyddydau a Busnes Cymru y prosiect fel "enghraifft wych" o beth ellir ei gyflawni pan sefydlir partneriaethau o'r fath.