Rhannu llwyfan gyda'r meistr
Bydd Bryn Terfel yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ar ddechrau Eisteddfod yr Urdd, ar gyfer dathlu pen-blwydd ysgoloriaeth sy'n dwyn ei enw.
Y mae hi'n ddeng mlynedd ers cychwyn Ysgoloriaeth Bryn Terfel gyda'r nod o ddatblygu a meithrin talent ifanc sy'n dod i'r amlwg yn eisteddfodau'r urdd.
Ac ar y nos Sul cyn cychwyn yr Eisteddfod eleni bydd y canwr ei hun yn ymuno ag enillwyr y deng mlynedd diwethaf i gadw cyngerdd a fydd yn sicrhau fod yr eisteddfod yn cychwyn y ffordd orau posib.
Cyfoeth o dalent
"Mae'r cyfoeth o dalent sydd i'w weld yn flynyddol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn werth chweil ac roeddwn yn awyddus i ddatblygu ysgoloriaeth fyddai'n galluogi pobl ifanc i ddatblygu eu talent a chynyddu eu sgiliau fwyfwy. Rwy'n credu fod yr ysgoloriaeth wedi cyflawni hyn ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau ymhell i'r dyfodol," meddai Bryn wrth edrych ymlaen at y noson.
Yn gystadleuydd cyson yn yr Urdd pan yn ifanc dywedodd Bryn fod Eisteddfod yr Urdd nid yn unig yn rhoi'r profiad o berfformio o flaen cynulleidfa ond hefyd yn sicrhau beirniadaeth adeiladol.
"Fe wnes i elwa gymaint o gystadlu yn yr Urdd ac ro'n i'n awyddus iawn i roi rhywbeth yn 么l i'r ieuenctid heddiw," meddai.
Yn rhannu llwyfan ag ef ar Fai 24 2009 bydd y ddawnswraig, Lowri Walton, y sacsoffonydd Rhys Taylor a'r feiolinydd Rakhi Singh.
Bydd Mirian Haf, enillydd cyntaf yr ysgoloriaeth hefyd yn perfformio yn y cyngerdd a'r actor Daniel Evans sydd wedi gwneud cryn enw iddo'i hun y tu allan i Gymru.
Meddai Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Aled Si么n:
"Mae hi bob amser yn bleser croesawu Bryn Terfel yn 么l i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae'r Ysgoloriaeth wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac yn ffordd i ieuenctid adeiladu ar eu perfformiadau buddugol a gweithio gydag arbenigwyr i ddatblygu eu sgiliau. Fe fydd y cyngerdd yn goron ar ddeng mlynedd cofiadwy iawn."
Enillwyr Ysgoloriaeth Bryn Terfel yw:
- Manon Wyn Williams (Shir G芒r 2007)
- Rhys Taylor (Sir Ddinbych 2006)
- Lowri Walton (Canolfan Mileniwm Cymru 2005)
- Rakhi Singh (Ynys M么n 2004)
- Aled Pedrig (Tawe Nedd ac Afan 2003)
- Rhian Mair Lewis (Caerdydd 2002)
- Blwyddyn G诺yl yr Urdd
- Fflur Wyn (Bro Conwy 2000)
- Mirain Haf (Llanbedr Pont Steffan 1999)
- Pinacl blwyddyn