Adolygiad Glyn Evans o Plant y Fflam. Sioe Ieuenctid yr Urdd 2010. Theatr Felinfach, pnawn Sul.
"Oes gyda chi rywun ynddo fo?" meddai gwraig tu cefn imi wrth ei chymydog yn Theatr Felinfach yn ystod yr egwyl ym mherfformiad Plant y Fflambnawn Sul.
Yn bersonol, fe fyddwn i wedi bod wrth fy modd bod 芒 rhywun yn y cynhyrchiad arbennig hwn.
Yn dad, yn fam, yn frawd, chwaer, ewythr, modryb, cyfnither, cefnder fe allen nhw fod yn falch iawn o unrhyw berthynas ar y llwyfan!
Diweddglo grymus
Yr oedd hon yn sioe gyda diweddglo go rymus, yn llawn egni, yn deimladwy ac yn ysgytwol wrth i'r holl gast ymuno 芒'i gilydd mewn 'big number' - rhai wedi cyrraedd y llwyfan yn drawiadol iawn mewn ffrogiau gwynion, llaes, i lawr grisiau estyll y neuadd.
Sioeau cerdd. Eu her fwyaf yn aml yw Y G芒n - sef y g芒n honno sy'n troi yn eich pen am ddiwrnodau wedyn nes yn y diwedd rydych chi'n amau ydych chi'n mynd i gael gwared 芒'r dam thing byth bythoedd!
Yr oedd cynhyrchiad Jeremy Turner Theatr Arad Goch o Blant y Fflam yn cychwyn heb yr anfantais honno gan i Y G芒nar ei gyfer gael ei chyfansoddi ddeng mlynedd ar hugain yn 么l gan gr诺p o'r enw Edward H Dafis - enw mawr yn hanes adloniant ysgafn Cymraeg.
Roedd y cynhyrchiad wedi ei sylfaenu ar albwm olaf y gr诺p blaengar y mae ei gyfansoddiadau, fel cyfansoddiadau'r Beatles hwythau, mor ffres ac iraidd heddiw a phan gyfansoddwyd hwy gyntaf.
Yn hynny o beth gellid dadlau na allai'r cynhyrchiad hwn gan gant o ddisgyblion ysgolion uwchradd Ceredigion fethu ac, yn wir, fe fyddai wedi bod yn bnawn cofiadwy dim ond rhibidiresu'r caneuon.
Creu stori
Ond aed gam ymhellach na hynny trwy greu stori oedd yn tynnu'r caneuon i mewn. Hoffwn i ddim dweud gormod am y stori - ddigon tenau mewn gwirionedd - ei hun rhag difetha'r sioe i neb arall.
Digon yw dweud fod Theatr Felinfach yn llawn i'r ymylon a'r gynulleidfa yn amrywio mewn oedran o gyfoedion Edward H i blant y gallai eu teidiau a'u neiniau ddweud hanesion am y band wrthyn nhw.
Yn llwyddiant ysgubol mae'r cynhyrchiad y bwriadwyd ei lwyfanu ddwywaith, dwi'n meddwl, yn mynd i gael ei berfformio seithgwaith i gyd yr wythnos hon.
Ac os nad oes gennych chi docyn yn barod wel, tyff. Maen nhw fel aur.
Taith
Cnewyllyn y stori yw taith - pererindod - criw hipiaidd anniddig eu natur i chwilio am eu hafallon, Y Tir Glas ac fel yr Hen Genedl yn y Beibl yn dod ar draws pob math o anawsterau ar y ffordd, yn cael denu gan 'dduwiau' eraill y saith a'r wyth degau a hyd yn oed ffraeo ymhlith ei gilydd a chwympo mas.
Ydi, mae hi'n hen stori ond dim tamaid gwaeth oherwydd hynny ac fe weithiodd i'r dim fel rhwyd i ddal caneuon Plant y Fflam.
Mae'n un o rhinweddau'r cynhyrchiad ei fod yn gwbl anghymreig mewn un ystyr sef yn yr ystyr ei fod yn rhesymol o ran hyd ac yn cyrraedd ei gresendo, sydd ddim yn air rhy grand, cyn i neb ddechrau aniddigo a strwyrian yn ei sedd.
Roedd y darnau corawl yn wefreiddiol o ystyried oed y perfformwyr.
Dyma'r ail gynhyrchiad theatraidd i mi ei weld yng Ngheredigion o fewn mis. Ymweliad Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru 芒 Phontrhydfendigaid oedd y llall gyda chynulleidfa eithaf llugoer o 15.
Mae'n anodd cysoni hynny a'r bwrlwm, yr asbri ac, yn bwysicach na dim, yr angerdd a'r mwynhad o berfformio a welwyd ar lwyfan digon cyfyng theatr lawn yn Felinfach.
Gwelais gynyrchiadau ieuenctid trawiadol eraill dros y blynyddoedd a methu deall pam nad yw'r brwdfrydedd a'r angerdd hwn yn treiddio i'n theatr genedlaethol.