240 o blant ar y llwyfan
Bydd 240 o blant rhwng dwy a phedair oed o gylchoedd meithrin Ceredigion yn cymryd rhan mewn pasiant ar lwyfan Prifwyl yr Urdd fore Llun am 10.15.
Bydd y perfformiad yn para am tua chwarter awr.
Sgriptiwyd Ffrind Newydd Pentre Bach gan Iola J么ns, Cyfarwyddwr Marchnata'r .
"Gan inni lansio Dewin - cymeriad newydd y Mudiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala fis Awst diwethaf, roedden ni'n awyddus i greu Pasiant a fyddai'n dod 芒 Dewin yn fyw i'r plant eleni," meddai.
"Felly trwy gydweithio 芒 Choblyn, Bili Bom Bom, Jac Do yn ogystal 芒 phlant o 37 o gylchoedd meithrin Ceredigion, bydd Dewin yn cael ei gyflwyno fel ffrind newydd plant bach Cymru gan gael llawer o hwyl a chwerthin ar yr un pryd!" ychwanegodd.
Dywedodd y bydd llawer o'r caneuon a genir yn y Pasiant yn hwiangerddi traddodiadol a ymddangosodd ar CD'r 糯yl Feithrin eleni a gyfansoddwyd ac a berfformiwyd gan Si芒n James, yn ogystal a ch芒n newydd Dewin ei hun.
Dywedodd y bydd sawl parti yn cael gynnal i ddathlu'r pasiant gyda thystysgrifau a phecyn bach o anrhegion yn cynnwys CD newydd sbon Dewin, yn cael ei roi i bob plentyn a gymerodd ran i'w hatgoffa o'r achlysur arbennig.