"Ydi mae hi. Na dydi hi ddim."
Bu'r dyfalu yn ddyfal ddoe a heddiw a yw Cerys Mattehews ar faes yr Eisteddfod.
Ac oedd, yr oedd hi, ac mae hi'n dal yma heddiw gyda rhai o rieni eraill Ysgol Gymraeg Llundain y mae eu plant yn cystadlu yn yr Eisteddfod.
Dywedodd Menna George, prifathrawes yr ysgol, i 19 allan o'r 30 o ddisgyblion sydd yno fod yn cystadlu.
Teithiodd y plant i'r Eisteddfod gyda'u rheini, yn eu plith y gantores Cerys Matthews a oedd yn fawr ei chanmoliaeth i'r ysgol.
Ychwanegodd mai siomedig fu ei hymwneud hi yn bersonol ag Eisteddfod yr Urdd.
"O'n i'n hoplesss," meddai, "nes iddyn nhw gael cystadleuaeth modern composition ac fe enillais innau wedyn!"