Llywydd dydd Llun yw'r gweinidog cefn gwlad yn y Cynulliad Cenedlaethol, Elin Jones, merch leol a fagwyd ar fferm yn Llanwnnen, ger Llambed.
Mynychodd Ysgol Gynradd Llanwnnen ac Ysgol Uwchradd Llanbed. Graddiodd o Brifysgol Cymru, Caerdydd gyda BSc mewn Economeg cyn dilyn 么l-radd MSc mewn Economeg Amaethyddol ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.
Am bedair blynedd bu'n ymchwilydd mewn Economeg Amaethyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ym 1991, dechreuodd weithio ar gyfer Bwrdd Datblygu Cymru Wledig ac yna i Asiantaeth Datblygu Cymru yn Aberystwyth.
Etholwyd hi i gynrychioli Ceredigion yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 ac fe'i hail etholwyd yn 2003 ac eto yn 2007.
Yng Ngorffennaf 2007, penodwyd Elin yn Weinidog dros Faterion Gwledig yn Llywodraeth Cymru'n Un yn dilyn clymblaid rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur.
Dywed fod ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn dyddio'n 么l i 1992 pan gafodd ei hethol yn aelod o Gyngor Tref Aberystwyth ac ymysg ei diddordebau fel gwleidydd mae'r economi wledig, cynllunio a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Y tu allan i'r byd gwleidyddol, mae ei diddordebau yn cynnwys teithio a cherddoriaeth. Mae'n canu gyda Ch么r ABC - c么r cymysg lleol yn Aberystwyth - sy'n canu mewn cyngherddau lleol ac eisteddfodau.
Elin Jones.