Ymateb a sylwadau Alan Llwyd
Awdl delynegol, bert oedd yr awdl fuddugol, a
bu'n awdl boblogaidd iawn am flynyddoedd lawer, yn enwedig un darn cywydd
adnabyddus. O safbwynt gelynion y canu caeth, yr oedd yr awdl hon yn brawf
arall o amharodrwydd ac anallu'r beirdd caeth i wynebu bywyd fel ag yr oedd
ac i symud ymlaen gyda'r oes. Tra cadeiriwyd awdl delynegol a ganai am serch
a natur yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, coronwyd pryddest aflonyddus
a oedd yn s么n am Lundain y clybiau nos, meddwdod ac erchyllterau'r Rhyfel
Mawr.
Y Goron
Testun. Pryddest ar un o'r testunau canlynol: 'Breuddwyd Macsen', 'Gwilym
Hiraethog', 'Arwydd Mab y Dyn;, 'Mab y Bwthyn'
Enillydd: Cynan ('Mab y Bwthyn')
Beirniaid: Anthropos, Crwys, Gwili
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd 'Roedd pryddest Cynan yn sioc i ddarllenwyr
barddoniaeth Gymraeg. Ni chafwyd ynddi ddim o'r eirfa eisteddfodol dreuliedig. Defnyddiodd iaith blaen, uniongyrchol i gyfleu ei neges losg.
Mae'r bryddest yn llawn o angst y cyfnod 么l-Ryfel: siom, dadrith, euogrwydd, gwacter ystyr, a chais i foddi'r gwacter ystyr hwnnw yn y clybiau
nos yng nghanol meddwdod, anfoesoldeb, y 'tango' a 'jazz'. Ceir ynddi ddisgrifiadau
cignoeth o ymladd yn y ffosydd. Un o gefnogwyr ysgol 'realaeth' oedd Cynan, a
galwyd y bryddest yn 'bryddest ryfedd' gan amryw. Y Fedal Ryddiaith
Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|