Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd 'Roedd awdl anfudugol James Nicholas yn
adlewyrchu dechreuad oes y brotest. Yma yng Nghymru bu protestio yn erbyn y bwriad i foddi Capel Celyn ac 'roedd
Saunders Lewis wedi cynhyrfu'r dyfroedd yn ei ddarlith 'Tynged yr Iaith'. Ond
'roedd oes y brotest yn lledaenu drwy'r byd, y duon yn yr Unol Daleithiau
a'r mudiad heddwch newydd a godasai o ganol tanchwa Hiroshima a Nagasaki.
'Roedd y dechnoleg newydd yn dechrau ymestyn y tu hwnt i ffiniau'r ddaear. 'Roedd Rwsia
wedi anfon dyn i'r gofod, ac ym 1962, efelychwyd Rwsia gan America. 'Roedd y ras
arfau rhwng America a'r Undeb. Sofietaidd yn ras yn y gofod hefyd. Awdl ar Fesur
Madog T. Gwynn Jones oedd yr awdl fuddugol, a rhai darnau grymus ynddi. Y Goron
Testun. Pryddest: ' Y Cwmwl'
Enillydd: D. Emlyn Lewis
Beirniaid: Euros Bowen, David Jones, Waldo Williams
Cerddi eraill: Tom Parri-Jones. L. Haydn Lewis, Dyfnallt Morgan Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd Pryddest drymaidd, orddelweddog ac anniddorol
am brofiadau offeiriad. Y Fedal Ryddiaith
Testun: Dyddiadur Bywgraffiadol neu Ddychmygol
Enillydd. William Owen: Bu farw Ezra Bebb
Tlws y Ddrama
Neb yn Deilwng
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|