Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd Awdl grefftus iawn am rai o gerfluniau Henry Moore. Y Goron
Testun: Dilyniant o gerddi, heb eu cyhoeddi, yn ymwneud 芒 bywyd cyfoes
Enillydd: Dafydd Rowlands ('I Gwestiynau fy Mab')
Beirniaid: Euros Bowen, J. M. Edwards, Gwyn Thomas Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd Dilyniant o gerddi gwefreiddiol a gafwyd gan Dafydd Rowlands. Lluniodd gerddi am bynciau cyfoes ar y pryd fel y gwrthdystio yn erbyn y Rwsiaid ym Mhr芒g, protestiadau Cymdeithas yr Iaith, yn ogystal 芒'r ysbryd protestgar byd-eang yn y cyfnod, y glanio ar y lleuad ym 1969, Fietnam, y newyn yn Biaffra, ac yn y blaen. 'Roedd ganddo ei lais ei hun a'i idiom ei hun, llais dychanol, telynegol, cyfareddol. Llwyddodd y cerddi hyn i lusgo cystadleuaeth y Goron o'r merddwr yr oedd ynddo ar y pryd, a rhoi nod a chyfeiriad pendant i feirdd rhydd y dyfodol. Ar 么l llwyddiant Eisteddfod Y Fflint ymsefydlodd y dilyniant yng nghystadleuaeth y Goron, a chafwyd sawl dilyniant llwyddiannus o 1969 ymlaen. Y Fedal Ryddiaith
Gwaith creadigol, ar unrhyw ffurf lenyddol, yn dangos tyndra rhwng dyn a'i gydwybod.
Enillydd: Emyr Jones (Grym y Lli); gwobr ychwanegol o 拢40 i John Rowlands
Tlws y Ddrama
Drama hir
Enillydd: John R. Evans (拢50 o'r 拢100 a'r Tlws); 拢25 i Tom Parry-Jones a 拢25 i Urien Wiliam
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|